Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial o fewn Colonosgopi i wella canlyniadau cleifion

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn arwain astudiaeth ymchwil glinigol nodedig sy’n nodi’r manteision i gleifion a chlinigwyr o ddefnyddio dulliau gwella delwedd a deallusrwydd artiffisial mewn archwiliadau colonosgopi.

Mae’r ymchwil, a gefnogir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a chanolfan Ymchwil Canser Cymru, ac a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd, yn defnyddio system canfod a diagnosis â chymorth cyfrifiadur wrth gynnal sgriniadau’r coluddyn mewn ymdrech i wella cyfraddau canfod polypau a chanser.

Mae colonosgopi yn gyfrwng pwysig ar gyfer adnabod a thynnu polypau cyn-ganseraidd a chanseraidd, ond mae ei effeithiolrwydd a'i ansawdd yn dibynnu'n fawr ar sicrhau bod polypau’n cael eu gweld yn ystod archwiliadau, ac na chânt eu methu. O ganlyniad, mae'r astudiaeth ymchwil glinigol yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i weithredu fel ail bâr o lygaid yn ystod y driniaeth i nodi a gwneud diagnosis o bolypau.

Dywedodd yr Athro Sunil Dolwani, Athro Gastroenteroleg ym Mhrifysgol Caerdydd a Meddyg Ymgynghorol a Gastroenterolegydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau: “O safbwynt sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, mae canfod yn gynnar yn bwysig i wella canlyniadau cleifion. Gan weithio'n agos gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru a rhaglenni sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru a Lloegr, nod y treial ymchwil clinigol hwn yw gwella canlyniadau cleifion trwy wella cyfraddau canfod, cynnig profiad gwell i gleifion trwy ddarparu diagnosis ar unwaith a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol o fewn unedau drwy ddulliau nodi patholeg cywir ar adeg y driniaeth. Rydym yn hynod ffodus i gael yr offer hwn o fewn ein gwasanaeth ac i gynnal yr ymchwil hwn a fydd, gobeithio, yn dangos effeithiolrwydd deallusrwydd artiffisial o fewn colonosgopi.”

Mae'r treial ymchwil clinigol yn dreial 6 blynedd lle mae'r tîm yn gobeithio dangos effeithiolrwydd yr offer mewn cyfraddau canfod canser y coluddyn i adeiladu achos economaidd gofal iechyd ar gyfer ei ddefnyddio.

Dilynwch ni