Mae rhaglen rhad ac am ddim Maeth i'ch Un Bach (NYLO) ar gael i deuluoedd yn ardal Caerdydd a'r Fro sydd â phlant 1-5 oed.
Nod y rhaglen yw rhoi'r hyder i rieni ddarparu deiet cytbwys i'w plant a'u helpu i gynnal pwysau iach.
Dywedodd Claire Fulthorpe, Prif Ddeietegydd y rhaglen NYLO: “Mae'r rhaglen NYLO wedi'i chynllunio i fod yn rhywbeth hwylus a diddorol i rieni a'u plant, gan ymgorffori gweithgareddau, amser byrbrydau, a chwarae gweithredol. Trwy ymgysylltu â theuluoedd fel hyn rydym yn rhoi'r offer sydd eu hangen arnynt i ddatblygu perthynas iach â bwyd am oes."
“Mae’r rhaglen hon o fudd i bawb, ond yn enwedig i blant sydd eisoes dros bwysau iach neu nad ydynt yn bwyta deiet cytbwys.”
Mae’r sesiynau dwy awr wythnosol ar gyfer rhieni a gofalwyr i’w mynychu gyda’u plentyn. Bydd rhieni/gofalwyr a phlant mewn sesiynau ar wahân am yr 1 awr 40 muned gyntaf, ac yna’n dod at ei gilydd am amser byrbryd teuluol am y 20 munud sy’n weddill.
Bydd plant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd iach a sesiynau chwarae egnïol, a gyflwynir gan staff gofal plant cofrestredig.
Bydd teuluoedd yn derbyn adnoddau i fynd adref gyda nhw bob wythnos, a gwybodaeth am weithgareddau i roi cynnig arnyn nhw gartref.
Dros y sesiynau mae’r rhaglen yn cwmpasu:
Lansiwyd NYLO ym mis Mawrth 2021 yn unol â strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru, i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn cyd-fynd â Chynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach Caerdydd a’r Fro 2020-2023, sy’n ymdrechu i sicrhau bod pobl yn symud mwy ac yn bwyta’n iach drwy gydol eu bywydau.
Ymweld â gwefan NYLO am fwy o wybodaeth i rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth neu drefnu lle ar raglen NYLO drwy:
Ffôn: 07972 732614
E-bost: nutrition.skillsforlife.cav@wales.nhs.uk
Fel arall, gellir gwneud atgyfeiriadau trwy eich ymwelydd iechyd.