3 Mehefin 2024
Mae Jessica Roberts, sy’n fam, wrth ei bodd yn pobi bara banana i’w mab 10 mis oed, Elijah. Mae hi hefyd wedi meistroli’r ddawn o wneud cyrri cyw iâr ffrwythau blasus ac wedi plesio ei ffrindiau’n fawr gyda’i phitsas cartref.
Mae ei brwdfrydedd newydd dros baratoi bwyd blasus wedi dod o Dechrau Coginio, cwrs naw wythnos am ddim sydd wedi’i gynllunio i helpu teuluoedd mewn ardaloedd Dechrau’n Deg i ddysgu mwy am goginio prydau maethlon ond fforddiadwy.
“Mae wedi agor fy llygaid i ffyrdd haws, rhatach ac iachach o wneud bwyd,” meddai. “Cyn i mi ddechrau, doeddwn i ddim yn hoffi coginio, ond mae’r cwrs hwn wedi gwneud i mi fwynhau’r profiad.”
Mae cyrsiau Dechrau Coginio yn cael eu cynnal gan dîm o weithwyr cymorth deieteg, a gweithwyr cymunedol wedi’u hyfforddi gan ddeietegwyr, sydd wrth law i ddarparu eu harbenigedd. Maent yn sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu mwy am werth maethol rhai bwydydd ac yn defnyddio cynhwysion ffres, syml yn dda.
“Diben Dechrau Coginio yw addysgu teuluoedd sut i wneud prydau iach, cytbwys ar gyllideb fforddiadwy,” eglurodd Lisa Darrell, Ymarferydd Deietg Cynorthwyol ar gyfer Dechrau’n Deg. “Mae’n caniatáu i bobl uwchsgilio a thorri’r cylch hwnnw o genedlaethau o rieni nad oedd efallai’n coginio prydau cartref eu hunain.
“Mae pris bwyd wir yn dod yn broblem i rai teuluoedd. Mae’r bwydydd iach yn dueddol o fod yn rhatach yn yr archfarchnadoedd, felly mae’n hawdd deall pam fod pobl yn dewis y llwybr hwnnw. Ond yn y cyrsiau Dechrau Coginio, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar gyllidebu, defnyddio eitemau ‘gwerth am arian’ a pheidio â defnyddio unrhyw gynhwysion ffansi.”
Yn ystod cwrs Jess, ar dir Ysgol Gynradd Glan yr Afon yn Llanrhymni, Caerdydd, roedd y dysgwyr yn treulio bob dydd Mercher yn myfyrio ar y ryseitiau roedden nhw wedi’u gwneud yn ystod yr wythnos flaenorol trwy ysgrifennu yn eu llyfrau gwaith cyn mynd i’r gegin.
“Erbyn wythnos tri neu bedwar, maen nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn mynd ati’n syth,” ychwanegodd Lisa. “Rydym yn tueddu i wneud dau bryd o fwyd yn ystod pob sesiwn dwy awr, o brydau ysgafn a byrbrydau hyd at brif brydau a phwdinau. Mae llawer o amrywiaeth.
“Ac yna ar y diwedd, mae’r cyfan yn cael ei rannu ac mae’r dysgwyr yn cael mynd â rhywfaint adref gyda nhw i roi i’w teuluoedd. Yna gallant benderfynu p’un a yw’n werth ei wneud gartref eto.”
Dywedodd Lisa mai un o rannau gorau’r swydd oedd gweld hyder y dysgwyr yn tyfu drwy gydol y naw wythnos. Mae cyrsiau Dechrau Coginio Dechrau’n Deg hefyd yn elwa o gyfleuster creche, felly gellir gofalu am y plant ifanc tra bod eu rhieni’n coginio.
“Weithiau mae pobl yn dod i’r cwrs sydd, i ddechrau, yn bryderus iawn am adael eu plant, neu hyd yn oed yn gwneud rhywbeth drostynt eu hunain. Mae bod yn rhiant yn gofyn llawer a dydych chi ddim yn tueddu i roi dim byd yn ôl i chi’ch hun, felly mae’n braf bod ganddyn nhw’r ddwy awr yna i feithrin eu gwybodaeth a’u cyfeillgarwch.”
Dywedodd Jessica iddi ddod i wybod am y cwrs trwy fam yng ngrŵp babanod aros a chwarae ei mab. Dywedodd ei bod bellach yn gogydd llawer gwell a’i bod yn gallu darparu’r deiet cytbwys sydd ei angen ar Elijah.
“Mae ganddo alergedd i brotein llaeth, felly roeddwn i’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o goginio a chynnwys dewisiadau llaeth amgen. Roedd hynny’n her fawr i mi,” ychwanegodd. “Roedd mor braf siarad â phobl eraill ar y cwrs, gan ddysgu beth sy’n iach a beth sydd ddim a sut i ychwanegu bwyd iach at brydau.”
Mam arall sydd wedi elwa’n fawr o Dechrau Coginio yw Sophie Pooley, a fynychodd y cwrs gyda’i merch 11 mis oed Mila.
“Dysgais i wneud prydau iachus cyflym a hawdd, rhywbeth yr oeddwn yn ei gweld yn anodd o’r blaen,” meddai. “Fe wnes i ffrindiau newydd ac rydyn ni’n parhau i fod mewn cysylltiad, ac fe gawson ni ein harwain trwy’r cwrs bob cam o’r ffordd. Does gen i ddim cymaint o wastraff bwyd bellach chwaith.”
Mae Dechrau Coginio, sy’n rhan o’r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, ar gael ar draws rhannau o Gaerdydd a Bro Morgannwg i deuluoedd Dechrau’n Deg sydd â phlant o dan bedair oed. Mae cyrsiau Dechrau Coginio ar gael i grwpiau eraill hefyd.
Mae’r cwrs hefyd wedi’i achredu ar lefel un ac mae’n werth dau gredyd (20 awr o ddysgu dan arweiniad).
I gael gwybod mwy am y cyrsiau, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Sgiliau Maeth am Oes, ewch yma.