Neidio i'r prif gynnwy

Dau weithiwr ysbyty i reidio o Lundain i Baris ar gyfer elusen

Mae dau glinigydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn paratoi ar gyfer her seiclo anferth o 470km i godi arian ar gyfer elusen canser y gwaed flaenllaw. 

Bydd rheolwr yr uned treialon hematoleg, Emma Williams, a’r hematolegydd ymgynghorol, Dr Ceri Jones, yn cymryd rhan yn nhaith seiclo ‘London 2 Paris’ rhwng Mehefin 8 a 12 i gefnogi gwaith Cure Leukaemia yng Nghymru. 

Bydd yr arian a godir yn cael ei fuddsoddi yn y Rhaglen Cyflymu Treialon, a elwir yn TAP, sef rhwydwaith o nyrsys ymchwil arbenigol mewn 12 canolfan canser y gwaed ar draws y DU. 

Mae eu gwaith yn helpu i gyflymu’r broses o sefydlu a darparu treialon clinigol canser y gwaed a allai achub bywydau, gan roi mynediad i gleifion at driniaethau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd trwy ofal safonol. Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r unig ganolfan TAP yng Nghymru. 

Dywedodd Emma, sydd wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y daith seiclo ers mis Rhagfyr y llynedd: “Rydym yn gwneud hyn i godi ymwybyddiaeth o lewcemia a’r angen parhaus i ariannu gwelliant mewn triniaeth ac mae hon yn ffordd wych o wneud hynny. 

“Mae’r ddau ohonom yn gweithio gyda chleifion lewcemia bob dydd ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i wella canlyniadau i’r holl gleifion hyn cymaint â phosibl. Rydym yn teimlo bod ymchwil a threialon eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes hwn, a hoffem gefnogi hyn ymhellach. 

“Rwy’n credu bod y ddau ohonom yn teimlo’n freintiedig o gael cyfle i godi arian at yr achos anhygoel hwn gan ein bod yn gwybod pa wahaniaeth y mae’r elusen yn ei wneud o ran triniaeth i’r cleifion hyn.” 

Dywedodd Emma, sy’n fam i ddau o blant, fod hefyd ganddi reswm personol dros ymgymryd â’r her hon, yn ogystal â helpu i godi arian ar gyfer triniaethau hanfodol. 

“Mae fy mab yn cael trafferth perthyn yn sgil ei syndrom Asperger, yn ogystal â dod o hyd i bobl sy’n deall ei feysydd o ddiddordeb arbenigol,” ychwanegodd. “Trwy gymryd rhan yn yr her hon, rwy’n ceisio ei ddysgu ef a fy merch i sylweddoli y gallwch chi gyflawni unrhyw beth rydych chi’n dymuno ei wneud os ydych yn teimlo’n angerddol yn ei gylch. Dylai’r diddordebau hynny fod yn fendith nid yn felltith.” 

Dywedodd Ceri ei fod wedi ymdrechu’n galed i seiclo’r milltiroedd cyn yr her ac ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y tywydd yn gwella er mwyn i mi allu seiclo rhai milltiroedd yn yr awyr agored yn ogystal ag ar yr hyfforddwr tyrbo. 

“Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr fy mod mor ffit â phosib fel ei bod yn daith bleserus yn hytrach na phoenus i Baris.” 

Roedd gan ffrind Emma, Carol, lymffoma ac yn anffodus bu farw o’r afiechyd ym mis Mehefin 2021. “Pe bai hi wedi bod yn fwy heini, mae’n ddigon posibl y byddai wedi bod yn gymwys ar gyfer therapi CAR-T (math o imiwnotherapi sy’n cynnwys casglu a defnyddio celloedd imiwnedd y cleifion eu hunain i drin eu cyflwr) sy’n dod â’r potensial o wellhad,” ychwanegodd Emma. 

“Fel ymchwilwyr, rydyn ni yma i chwilio am driniaethau gwell ac, wrth wneud hynny, yn cynnig opsiynau triniaeth gwell i’n cleifion, gan anelu at iachâd llwyr yn y pen draw.” 

Mae rhwydwaith TAP wedi’i ariannu gan Cure Leukaemia ers 2020 ac mae’n costio dros £1m y flwyddyn i’w gynnal. 

Mae gan bob seiclwr sy’n cymryd rhan yn her ‘London 2 Paris’ Cure Leukaemia isafswm codi arian o £1,500 yr un. Mae disgwyl i fwy na 150 o seiclwyr gymryd rhan dros y pedwar diwrnod. 

Gallwch helpu i gefnogi gwaith codi arian Emma a Ceri drwy gyfrannu ar-lein yma

I gael rhagor o wybodaeth am Cure Leukaemia ewch i: www.cureleukaemia.co.uk 

Dilynwch ni