Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu'r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed ar 11 Mehefin

Mae chwarae yn fwy na hawl ddynol – mae’n ganolog i iechyd, lles a hapusrwydd plant. Dyna pam y byddwn yn dathlu chwarae ar 11 Mehefin ar y Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed!

Yn dilyn ymgyrch gan glymblaid o sefydliadau chwarae, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn gynharach eleni i sefydlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol. Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae ac mae’n gyfle i ymchwilio i ffyrdd o wneud yn siŵr y gall plant ym mhob man chwarae bob dydd.

“Mae angen chwarae yn llawn cymaint ag y mae angen aer i anadlu, maeth i dyfu a datblygu, a chariad i ffynnu a bod yn hapus.” Galwad i Weithredu gan Bobl Ifanc Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Mae chwarae yn cynnig llu o bethau i’ch plentyn sy’n cefnogi ei iechyd a’i ddatblygiad. Pan mae plant yn chwarae, maent yn ymarfer eu cyrff a’u hymennydd heb sylweddoli hynny. Gall chwarae fod yn ffordd o ymlacio hefyd – ac yn bwysicaf oll, mae’n hwyl. Nid oes angen i chwarae gostio llawer (os o gwbl) ac mae’n gwneud pob diwrnod yn antur.

Er gwaethaf yr holl fanteision gwych sy’n gysylltiedig â chwarae, mae 29% o blant yng Nghymru yn dweud nad ydynt byth, neu bron byth, yn chwarae allan (Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru). Beth am ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin drwy wneud amser i chwarae a dechrau traddodiad o chwarae mwy bob dydd yn eich teulu chi? Dyma rai syniadau i chi ddechrau arni.

Ffyrdd o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

  • Ceisiwch neilltuo rhywfaint o amser ychwanegol i chwarae ar 11 Mehefin. Os yw amser yn brin, gallwch chwarae gartref neu yn yr ardd os oes gennych un. Os oes gennych ychydig mwy o amser, beth am fynd i’ch parc neu fan gwyrdd lleol.
  • Ymunwch â rhieni eraill a chymdogion i ddarparu gofod diogel i blant chwarae yn yr awyr agored. Gallai hyn fod yn y lonydd rhwng tai neu lain werdd ar waelod eich stryd.
  • Chwaraewch yn yr awyr agored – beth bynnag yw’r tywydd! Os yw’n boeth, gallwch chwarae yng nghysgod y coed. Os yw’n wlyb, gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n dal dŵr a chael hwyl yn sblasio yn y pyllau!

Syniadau hawdd ar gyfer chwarae gartref

  • Pethau fel bocsys, llinyn, brigau, papur, clustogau a defnydd yn aml yw’r pethau gorau ar gyfer chwarae. Mae eitemau fel y rhai hyn yn wych ar gyfer chwarae oherwydd maen nhw’n annog plant ifanc i fod yn fwy creadigol ac egnïol.
  • Mae chwarae gyda sialc yn ffordd rad a hawdd i chwarae gartref. Gadewch i’ch plentyn wneud lluniau ar y palmant neu yn eich iard, neu gallwch greu patrwm iddyn nhw chwarae gêm fel hopsgots.
  • Cadwch focsys cardbord a deunyddiau pecynnu eraill ac annog eich plentyn i fod yn greadigol! Gallent greu ceir, cestyll neu longau gofod, neu eu defnyddio i greu cuddfannau a chaerau.

Cynnwys chwarae ym mywyd bob dydd y teulu

  • Os ydych yn mynd allan yn lleol, gadewch y car gartref a chwarae wrth i chi gerdded.  Gallwch ddefnyddio esgidiau rholio, sgwteri neu sglefrfyrddau. Meddyliwch am gemau y gallwch eu chwarae ar y ffordd.
  • Nid oes angen i chwarae a chael hwyl yn ystod gwyliau’r haf fod yn ddrud. Gallwch gasglu dail a brigau fel rhan o helfa sborion awyr agored neu gael brwydrau dŵr a chreu llithrennau dŵr i oeri ar ddiwrnodau poeth.
  • Dewch o hyd i leoedd i chwarae yn lleol. Os ydych yn byw ger yr arfordir, beth am adeiladu cestyll tywod ar y traeth. Os ydych yn byw yn agos at barc, ewch â phicnic gyda chi neu ddringo coeden. Os oes gennych ardd, beth am adeiladu cuddfan yno.

Darganfod mwy

Mae llawer mwy o syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer chwarae i’w cael ar wefan Plentyndod Chwareus. Dyma rai erthyglau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Dilynwch ni