 
				
			
			Heddiw ar Ddiwrnod Golwg y Byd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o gyhoeddi lansiad Gwasanaeth Rhoi Llygaid, y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Lansiwyd y fenter mewn partneriaeth â Gwasanaethau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a bydd yn sicrhau bod cornbilenni sy’n cael eu rhoi yn parhau i drawsnewid bywydau cleifion mewn angen, gan roi rhodd golwg yn ôl i bobl.
Mae llawer o bobl yn ymwybodol o’r broses o roi organau a'r effaith drawsnewidiol y gall hyn ei chael ar gleifion, ond nid oes cymaint o bobl yn ymwybodol o’r broses o roi llygaid a meinweoedd. Y gornbilen yw'r haen allanol, glir o feinwe yn y llygad sy'n gadael i olau ddod i mewn fel y gallwch weld. Pan gaiff hyn ei roi ar ôl i chi farw, gall drawsnewid golwg ac ansawdd bywyd rhywun.
Ymunodd Nicole a Jessica â thîm Nyrsio Profedigaeth y Bwrdd Iechyd fel rhan o adran Profiad y Claf yr wythnos hon. Byddant yn gweithio i ddatblygu'r Rhaglen Rhoi Cornbilenni, gan gysylltu â chleifion a theuluoedd ynglŷn â'r posibilrwydd o roi, ac anrhydeddu haelioni rhoddwyr a'u hanwyliaid.
Dywedodd Nicole: “Mae'n golygu'r byd i mi. Byddaf yn dysgu sgiliau clinigol newydd ac yn rhan o dîm mor wych, gyda'r nod o gynyddu cyfraddau rhoi meinwe.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hyrwyddo rhodd golwg ym mhob ffordd bosibl.”
Ychwanegodd Jessica: “Mae gen i angerdd dros ddarparu gofal o safon aur i berthnasau yn ystod cyfnodau mor ofidus â cholli rhywun annwyl. Mae bod yn rhan o daith rhywun yn fraint.
Rwy’n falch iawn fy mod i’n gallu cynnig gofal a rhoddion cornbilenni fel rhan o’u penderfyniadau diwedd oes, gan roi cyfle i bobl adael etifeddiaeth barhaol.”
Dywedodd Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi recriwtio dau aelod penodedig o staff i’n tîm Nyrsio Profedigaeth yn adran Profiad y Claf. Bydd eu gwaith yn sicrhau bod rhodd golwg yn parhau i drawsnewid bywydau.
Mae rhoi cornbilenni yn waddol bwerus—un sy'n adfer golwg, yn adnewyddu annibyniaeth, ac yn ailgynnau gobaith. Drwy’r fenter hon, byddwn yn hyrwyddo effaith rhoi organau a meinweoedd sy’n newid bywydau.
Gyda'n gilydd, gallwn ddathlu rhodd golwg a'r etifeddiaeth y mae'n ei gadael ar ôl.”
Croeso cynnes i Nicole a Jessica wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith hanfodol yn cefnogi’r broses o roi cornbilenni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am Rhoi Llygaid a Meinweoedd, ewch i wefan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG i gael gwybod mwy: nhsbt.nhs.uk/what-we-do/transplantation-services/tissue-and-eye-services/.