Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Niwroamrywiaeth: Dewch i gwrdd â rhai o'n hinterniaid Project SEARCH

Fel sefydliad balch Project SEARCH, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig interniaethau â chymorth ar draws ystod o adrannau gwahanol i bobl ifanc ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu. 

Mae rhaglen Project SEARCH yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, Addewid Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro  i roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i interniaid er mwyn cael swyddi cyflogedig ystyrlon. 

Croesawodd y Bwrdd Iechyd garfan newydd o fyfyrwyr yn ôl ym mis Medi 2024, sydd wedi ymgartrefu’n wych yn eu timau amrywiol. Gwnaethom gysylltu â rhai o'r interniaid cyn Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth: 

 

Mae Huw wedi mwynhau gweithio yn yr adran Cofnodion Meddygol yn arbennig fel rhan o'i interniaeth. “Rwy’n mwynhau fy swydd a gweithio gyda fy nghydweithwyr. Rwyf newydd ddechrau gweithio gyda ffeiliau cleifion ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei fwynhau,” meddai. 

“Rwy’n gobeithio cael swydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl i mi orffen Project SEARCH yn yr adran Cofnodion Meddygol gan mai dyma oedd fy hoff leoliad.” 

Mae Joel wedi treulio ei leoliad gydag adrannau TG a Phorthora Cyffredinol y Bwrdd Iechyd. 

Yr hyn rwy’n ei fwynhau am Project SEARCH yw ymweld â gwahanol leoliadau, hefyd siarad â chydweithwyr “Ar ôl i mi orffen Project SEARCH hoffwn gael swydd yn y bwrdd iechyd a chwblhau cwrs Modurol hefyd,” meddai Joel. 

Dywedodd Amy Moreno-Gray, Rheolwr Gwasanaeth Interniaeth â Chymorth Cyngor Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o ba mor dda y mae'r interniaid wedi ymgartrefu yn eu lleoliadau amrywiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

“Mae staff yr adran wedi bod mor groesawgar a chefnogol ac mae ein hinterniaid yn rhan fawr iawn o’r tîm. 

“Mae’r lleoliadau wedi caniatáu i’n hinterniaid arddangos eu set sgiliau tra hefyd yn datblygu sgiliau newydd yn barod ar gyfer eu cylchdro terfynol. Mae ein hinterniaid yn weithgar, yn frwdfrydig, yn benderfynol ac yn uchelgeisiol, sydd i gyd yn rhinweddau gwych wrth chwilio am waith.” 

Mae’r bwrdd iechyd yn falch o gael cyfranogiad yr interniaid, sy’n cyflwyno brwdfrydedd, ymroddiad, a safbwyntiau ffres. Wrth iddynt barhau â'u taith, mae cydweithwyr yn gyffrous i weld popeth y byddant yn ei gyflawni a'r effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac adeiladu diwylliant cynhwysol yn y gweithle, lle caiff pawb eu trin â pharch ac urddas a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn falch o gymryd rhan yn y cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a weithredir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  Mae'r cynllun yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cynnig i'r gweithle. Darllenwch fwy am nodau’r Bwrdd Iechyd i gyflawni gweithlu cynhwysol yn shapingourfuturewellbeing.com 

I gael rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd eraill i bobl ifanc, ewch i’n tudalen profiad gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project SEARCH, ewch i’w gwefan. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni