Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu gwaith y Tîm Darlifiad Rhanbarthol Normothermig

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dathlu gwaith arloesol ei dîm tynnu organau, sydd wedi gwella hyfywedd organau a roddwyd drwy ddefnyddio technoleg Darlifiad Rhanbarthol Normothermig (NRP). Mae’r dechneg chwyldroadol hon yn adfer gwaed ocsigenedig i organau a roddwyd ar ôl i berson farw, gan wella eu hansawdd ar gyfer trawsblaniad yn sylweddol ac arwain at ganlyniadau gwell i’r rhai sy’n cael trawsblaniad.

Ers cyflwyno technoleg NRP yn 2022, tîm Tynnu Organau Caerdydd, sydd wedi’i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yw’r rhaglen NRP drydedd fwyaf yn y DU ac fe’i henwebwyd am gydnabyddiaeth genedlaethol am Ragoriaeth mewn Tynnu Organau a Meinweoedd. Mae ymroddiad y tîm i wella canlyniadau trawsblaniadau wedi cael effaith gadarnhaol ar gleifion lleol a nifer o gleifion mewn rhannau eraill o’r wlad. Mae gwaith caled y tîm hwn yn llywio dyfodol adfer a thrawsblannu organau yn y DU. Mae’r tîm, sy’n cynnwys wyth llawfeddyg tynnu organau profiadol ac wyth ymarferydd sgryb, yn ymroddedig i wthio ffiniau; ac mae eisoes yn ehangu i ateb y galw cynyddol.

Yn ddiweddar, perfformiodd tîm NRP 4 proses dynnu NRP mewn un wythnos a helpu i achub bywydau 6 o dderbynwyr trawsblaniad aren ac un afu.

Helpodd cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen NRP yng Nghaerdydd. Dywedodd Elijah Ablorsu, arweinydd y rhaglen, “Rwy’n hynod falch o waith y Tîm Darlifiad Rhanbarthol Normothermig. Mae eu gwaith arloesol yn newid y dirwedd o dynnu a thrawsblannu organau yn y DU, ac mae eu hymroddiad i wella’r canlyniad i gleifion yn wirioneddol ysbrydoledig”.

Cofrestrfa Rhoi Organau

Mae’n werth nodi, ers 2013, bod unrhyw oedolyn neu blentyn 18 oed neu hŷn yng Nghymru yn cael ei gofrestru’n awtomatig ar y gofrestr rhoi organau oni bai ei fod wedi optio allan. Er y gallai unigolyn fod wedi cofrestru ei benderfyniad, mae ei deulu bob amser yn rhan o unrhyw sgwrs yn ymwneud â rhoi organau. Felly, mae’n bwysig siarad ag aelodau’r teulu am roi organau i sicrhau eu bod yn cefnogi’r penderfyniad.

Gall unigolion sy’n dymuno cefnogi gwaith y tîm NRP, a helpu i achub bywydau, gael sgwrs gyda’u perthnasau am roi organau. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn trafod y mater yn sensitif gyda’r teulu os yw rhoi organau’n bosib. I ddysgu mwy a chofrestru i fod yn rhoddwr organau, gall unigolion ymweld â gwefan rhoi organau’r GIG.

Dilynwch ni