15/05/2023
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig, daeth cydweithwyr o bob rhan o’n Gwasanaethau Mamolaeth ynghyd i ddathlu ein holl fydwragedd, myfyrwyr bydwreigiaeth a gweithwyr cymorth am bopeth a wnânt.
Cynhaliwyd Gwobrau Bydwragedd BIP Caerdydd a’r Fro ar 5 Mai, er mwyn cydnabod cydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Mamolaeth am y gofal rhagorol y maent yn ei ddarparu bob dydd. Mae ein bydwragedd yn cefnogi miloedd o deuluoedd bob blwyddyn ac yn croesawu cannoedd o fabanod hardd i’r byd bob mis.
Eleni, cyflwynodd cannoedd o rieni, aelodau teulu a chydweithwyr enwebiadau a rhannu eu hadborth — gan dynnu sylw at yr ystod enfawr o sgiliau, arbenigedd a thosturi parhaus sydd ganddynt.
Enillwyr eleni a’r rhai a ddaeth yn ail oedd:
Bydwraig Gymunedol
Enillydd — Sue Bibby
Yn ail — Sophie Lewis
Gwobr Cymorth o ran Bwydo
Enillydd — Sonia Hansen
Yn ail — Laura Payne
Gwobr y Cymhellwr
Enillydd — Tanith Parsons-Jones
Yn ail — Polly Ellis
Gwobr Myfyriwr Bydwreigiaeth
Enillydd — Emma Caswell
Yn ail — Becky Brown
Gwobr GEM
Enillydd — Kate Davies
Yn ail — Tara Kemble
Staff — Cyfraniad Eithriadol Enwebedig
Enillydd — Rebecca Skidmore
Yn ail — Sarah Lucas
Gwobr Pennaeth Bydwreigiaeth
Enillydd — Cara Moruzzi
Cafodd y timau bydwreigiaeth gwmni’r Prif Swyddog Gweithredol, Suzanne Rankin; y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Jason Roberts; Andy Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Clinigol Plant a Menywod a Cath Wood, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Clinigol Plant a Menywod.
Dywedodd Suzanne Rankin: “Roedd yn wych mynychu’r digwyddiad a dathlu’r bydwragedd, myfyrwyr bydwreigiaeth a gweithwyr cymorth gwych sy’n mynd gam ymhellach bob dydd.
“Rwy’n cofio’r bydwragedd a oedd yno i mi pan oeddwn i’n fam newydd ac wedi fy helpu i ymdopi â’r heriau gwahanol y mae rhieni newydd yn eu hwynebu, felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r tîm bydwreigiaeth cyfan.
“Roedd ymrwymiad y tîm bydwreigiaeth i ddarparu’r gofal gorau oll yn amlwg wrth i’r gwobrau, yr enillwyr a’r ail safle, fynd rhagddynt. Hoffwn longyfarch holl enillwyr ac enwebeion eleni ar eu cyflawniadau a’u llwyddiant.”
Dywedodd Jason Roberts: “Roedd yn bleser pur cael treulio amser yn dathlu llwyddiant gyda bydwragedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol, ond mae’r gwobrau niferus a enillwyd yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad ein timau bydwreigiaeth.”
Ychwanegodd Andy Jones: “Rydw i wedi cael y fraint anhygoel o weithio gyda’n timau bydwreigiaeth am y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydw i wedi mwynhau pob eiliad.
“Mae ein bydwragedd, myfyrwyr bydwreigiaeth a’n gweithwyr cymorth bydwreigiaeth yn darparu gofal gwych sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn bob dydd ac mae’r straeon arbennig a glywsom wir yn atgyfnerthu hynny.”
Hoffem ddiolch i’r sefydliadau a’r cwmnïau am fod mor garedig â chynnig llawer o wobrau anhygoel, gan gynnwys Lush, L’Occitane, Penylan Aesthetics, Suds & Sparkle, Jo Malone, Kate’s Nails and Beauty, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Chynhadledd Myfyrwyr Bydwreigiaeth Cymru Gyfan.