19 Tachwedd 2024
Mae ffurf flaengar o lawdriniaeth sy’n defnyddio robot arloesol i dynnu tiwmorau wedi trin miloedd o gleifion ers ei gyflwyno yn Ysbyty Athrofaol Cymru 10 mlynedd yn ôl.
Mae system lawfeddygol da Vinci Xi yn darparu gwell delweddu, medrusrwydd, manwl gywirdeb ac ergonomeg i lawfeddygon, gan eu galluogi i gynnal llawdriniaeth drwy gymorth robot sy’n creu archoll mor fach â phosibl. O ganlyniad, mae cleifion sy’n cael llawdriniaeth drwy gymorth robot yn elwa o doriadau llawfeddygol llai a llai o gymhlethdodau, gan arwain at adferiad cyflymach a llai o ddiwrnodau yn yr ysbyty.
Pan ddaeth y system i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddegawd yn ôl, Ysbyty Athrofaol Cymru oedd yr ysbyty cyntaf yn y DU i ddefnyddio system lawfeddygol da Vinci Xi. Fe’i defnyddiwyd yn gyntaf ar gyfer llawdriniaethau Wroleg, cyn symud i’r Glust, Trwyn a Gwddf (ENT) yn 2019.
Mae’r da Vinci Xi yn cynnwys tair cydran: cert claf gyda phedair braich ar gyfer trin ac endosgopi, consol y llawfeddyg a monitor i weld y llawdriniaeth. Dyma un o’r systemau robotig llawfeddygol mwyaf datblygedig sydd ar gael o hyd a dim ond llawfeddygon sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol a ddylai ei ddefnyddio.
Ar draws y Bwrdd Iechyd, mae pum llawfeddyg sydd wedi’u hyfforddi ym meysydd Wroleg ac ENT, sydd wedi trin dros 2,700 o gleifion o bob rhan o Gymru ers mis Medi 2014.
Dywedodd Mr Sandeep Berry, Otolaryngolegydd Ymgynghorol: “Mae’r defnydd o’r robot yn ymwneud â thrin cleifion mewn angen a chydweithio ar lwyfan cenedlaethol. Gyda’r dechnoleg hon, gallwn wella ansawdd bywyd cleifion, sicrhau canlyniadau gwell, isgyfeirio triniaeth a darparu ymchwil ar gyfer treialon cenedlaethol.”
Y system yw un o’r ffyrdd y mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu ansawdd rhagorol fel rhan o’r strategaeth 10 mlynedd Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol. Mae’r Bwrdd Iechyd ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn technoleg a thriniaethau sy’n newid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn gyflym.
Dywedodd David Marante, Is-lywydd Intuitive y DU ac Iwerddon, gwneuthurwyr system lawfeddygol da Vinci: “Bu llawfeddygon a’r timau gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn arloesi’r defnydd o’n system lawfeddygol da Vinci Xi bedwaredd genhedlaeth yn y DU. Rydym wrth ein bodd bod eu rhaglen llawfeddygaeth drwy gymorth robot yn parhau i ehangu 10 mlynedd yn ddiweddarach, fel y gall mwy o gleifion ledled Cymru elwa o ofal mor anymwthiol â phosibl.”
Dangoswyd Mr Berry a’i gydweithwyr yn defnyddio’r da Vinci Xi ar bennod ddiweddar o Saving Lives in Cardiff y BBC, a gafodd ei darlledu ar BBC One Wales a BBC Two am 9pm ddydd Mawrth 24 Medi. Os gwnaethoch chi fethu pennod, gallwch ddal i fyny ar BBC iPlayer nawr.