Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ynglŷn â phrynu adeilad Meddygfa Redlands

25 Ionawr 2024

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol Meddygfa Redlands a sicrhau mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain y Fro.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn rhan o drafodaethau i brynu’r adeilad presennol. Gallwn gadarnhau bod y trafodaethau bellach wedi dod i ben ac mae’r Bwrdd Iechyd yn cwblhau contractau i’w cyfnewid yn dilyn y diwydrwydd dyladwy arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo.

“Mesur dros dro fydd hwn a bydd yn gartref i Feddygfa Redlands hyd nes y bydd Hyb Llesiant wedi’i sefydlu, gan ganiatáu i’r practis ehangu ei gynigion yn y gymuned.

“Rydym yn croesawu’r adborth a roddwyd gan drigolion Dwyrain y Fro ac yn annog pawb i ymwneud â’r broses o ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer yr hyb llesiant arfaethedig sy’n cyflawni amcanion a gofynion y rhaglen Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol yn y Gymuned yn y ffordd orau.

“Gyda’i gilydd, bydd y Bwrdd Iechyd, cydweithwyr awdurdodau lleol a thrigolion yn datblygu cynlluniau ar gyfer Hyb Llesiant ar y cyd i ddiwallu anghenion y gymuned ehangach cyn i gynnig gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid.”

Dilynwch ni