24 Ionawr 2024
Mae datganiadau o ddiddordeb bellach wedi cau.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gweithio gyda Gwasanaethau Ystadau Arbenigol NWSSP ac Asiantau Eiddo Savills ynghylch datganiadau o ddiddordeb ar gyfer gwerthu Ysbyty Rookwood yn ei gyfanrwydd neu rannau ohono yn unig.
Yn 2020, caewyd prif ran Ysbyty Rookwood pan gafodd Gwasanaethau Adsefydlu’r Asgwrn Cefn a Niwroadsefydlu eu hadleoli i Ysbyty Athrofaol Llandochau. Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaethau Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS), Technoleg Gynorthwyol Electronig (EATS), Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru (WMDAS), Canolfan Brechu Torfol a Therapi Galwedigaethol yn parhau i fod yn weithredol ar y safle, ac mae darpariaethau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau i weithredu’n ddidrafferth yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda dau adeilad rhestredig Gradd II – Rookwood House a’r tŷ haf – yn ogystal â’r ffaith bod y safle wedi’i gynnwys yng Nghofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Gradd II) anstatudol Cadw, a bodolaeth nifer fawr o goed sydd wedi’u gwarchod gan Orchmynion Cadw Coed, nid yw’r safle bellach yn hyfyw. Oherwydd y cyfyngiadau hyn o amgylch yr ystad, ni all yr eiddo gynnig ei hun i fod y math o ysbyty modern sydd ei angen i ddarparu’r gofal gorau i’w gleifion a’i staff.
Adeiladwyd Ysbyty Rookwood yn wreiddiol ar ddiwedd y 1860au ar gyfer y Cyrnol Syr Edward Stock Hill, er y credir bod tirlunio wedi dechrau mor gynnar â’r 1770au pan ddaeth y tiroedd yn rhan o ystad Thomas Edward o Llandaff House. Defnyddiwyd y tŷ am y tro cyntaf ar gyfer gofal iechyd ym 1917, gan adsefydlu cleifion a oedd wedi dioddef parlys, ac ar gyfer darparu aelodau artiffisial, cyfarpar a chymhorthion.
Buddiolwyr gwerthiant Ysbyty Rookwood fydd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro lle bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion, staff, ymwelwyr a’r gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y cwestiynau cyffredin a llyfryn yma.