Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gadarnhau nad oes gwirionedd yn y sibrydion bod Meddygfa Redlands ym Mhenarth i fod i gau.
Yn anffodus, mae stori anghywir wedi’i rhannu ar blatfform ar-lein lleol ar gyfer Penarth, ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi gofyn iddynt ddileu’r stori.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y sibrydion hyn wedi achosi peth pryder yn y gymuned ac ymhlith meddygfeydd eraill ym Mhenarth, ond mae Meddygfa Redlands yn parhau i fod ar agor.
Byddem yn gofyn i'r gymuned beidio â chysylltu â'u Practis Meddyg Teulu i drafod hyn fel y gall y staff ganolbwyntio ar ddarparu gofal cleifion.
Gobeithiwn y bydd hyn yn lleddfu unrhyw bryderon sydd gennych.