21 Mehefin 2023
Dywedodd Abigail Holmes, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn derbyn canfyddiadau adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn ac rydym wedi cymryd y camau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r holl bryderon uniongyrchol a amlinellwyd.
“Hoffem dawelu meddwl y gymuned mai darparu gofal diogel, effeithiol a chynhwysol i bob menyw a pherson sy’n geni yw ein prif flaenoriaeth bob amser. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r gofal gorau posibl a bydd yr holl ganfyddiadau'n cael eu defnyddio i wneud gwelliannau cadarnhaol.
“Mae’r Bwrdd Clinigol Plant a Menywod, ynghyd â’n tîm Gweithredol, wedi gweithredu ac ymgorffori nifer o fentrau a strategaethau i sicrhau bod y gofal a ddarparwn mor effeithiol a thosturiol â phosibl. Fel sefydliad sy’n dysgu, rydym yn gwbl barod i dderbyn adborth ar unrhyw feysydd i’w gwella a byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma.
“Hoffem ddiolch i’r holl gleifion a chydweithwyr a ymgysylltodd ag arolygwyr AGIC a rhoi sicrwydd iddynt fod eu lleisiau wedi’u clywed. Rydym yn ymwybodol iawn bod cydweithwyr yn gweithio’n ddiflino mewn amgylcheddau heriol yn aml ac rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrech ddewr y maent yn ei gwneud bob dydd i sicrhau bod ein cleifion yn cael gofal da.
“Mae’r GIG yn wynebu prinder parhaus o staff nyrsio a bydwreigiaeth yn genedlaethol ac rydym ar adegau wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal rhai gwasanaethau dros dro, sydd wedi effeithio ar ddewis cleifion, er mwyn sicrhau bod lefelau staffio diogel yn cael eu cynnal yn y brif uned esgor.
“Er mwyn lliniaru’r heriau hyn, rydym wedi buddsoddi mwy na £2 filiwn i wella recriwtio ac adnoddau ar draws gwasanaethau mamolaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae ein huwch dîm arwain hefyd yn parhau i weithio gyda chydweithwyr i ddod o hyd i fentrau cydweithredol i wella’r ffordd rydym yn gweithio a sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn meddu ar y gallu i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.
“Mae'n galonogol bod yr adroddiad yn adlewyrchu ymroddiad ac angerdd ein cydweithwyr, ac rydym yn falch o glywed bod yr holl gleifion a siaradodd ag AGIC yn yr arolygiad dilynol wedi rhoi canmoliaeth uchel i gydweithwyr ac yn teimlo eu bod yn cael gofal a bod rhywun yn gwrando arnynt.
“Rydym hefyd yn falch bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at nifer o feysydd o arfer da, gan gynnwys ein tîm ELAN o fydwragedd sy’n gofalu am fenywod a phobl sy’n geni sydd ag anghenion cymdeithasol cymhleth, ein dull amlddisgyblaethol o weithio a’r cyfarfodydd llywodraethu rheolaidd a gyflwynir i feithrin diwylliant cefnogol a hyrwyddo atebolrwydd a gofal diogel.
“Fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni’n rhoi’r flaenoriaeth uchaf i lanweithdra a hylendid ac rydyn ni’n siomedig nad yw rhai meysydd wedi cyrraedd ein safonau uchel o bryd i’w gilydd. Yn dilyn yr arolygiadau, fe wnaethom gymryd camau ar unwaith i ddatrys hyn ac rydym wedi datblygu cynllun gweithredu cadarn i sicrhau bod y lefelau hyn yn cael eu cynnal.
“Er ein bod yn profi heriau gyda’r hen seilwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru, hoffem roi sicrwydd i’n cleifion a’r gymuned ehangach ein bod yn gweithio’n galed i nodi ffyrdd o liniaru’r heriau hyn a sicrhau ein bod yn gallu darparu gofal iechyd modern mewn amgylchedd modern.”