Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.
Bob mis, bydd yr ymgyrch ‘Dan Sylw’ yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.
Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.
-
PC Martin Baggett yw unig Swyddog Cyswllt Ysbytai penodedig Cymru ar hyn o bryd. Yn wreiddiol yn Rheolwr Rhawd Cymdogaeth yn benodol i Ysbyty Athrofaol Cymru, ehangwyd ei rôl tua blwyddyn yn ôl i gynnwys pob ysbyty ar draws y Bwrdd Iechyd.
O ddydd i ddydd, mae’r heddwas profiadol yn cynnig cyngor atal troseddu, yn datrys problemau, ac yn gweithio’n agos gyda thimau fel y tîm Diogelwch i gadw staff y rheng flaen mor ddiogel â phosibl rhag trais ac ymddygiad ymosodol.
“Fi yw’r person yn y fan a’r lle ar gyfer unrhyw faterion o ddydd i ddydd sy’n codi o fewn ein safleoedd ysbyty. Yn flaenorol, pe bai galwad i unrhyw un o’r ysbytai, byddai swyddogion ymateb yn dod o’r orsaf leol i ddelio â’r broblem.
“Fodd bynnag, nid yw’n galw am hynny’n aml. Dim ond rhywfaint o gyngor neu sgwrs un-i-un sydd ei angen - a dyna lle gallaf ddod i’r adwy, weithiau o fewn munudau i’r alwad.”
Dywedodd PC Baggett mai un o’i heriau mwyaf yw delio â phroblemau yn Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru, sydd bellach yn gallu digwydd unrhyw noson o’r wythnos.
“Y peth mwyaf i mi yw lles staff y rheng flaen sydd weithiau’n dioddef dicter o ganlyniad i’r achosion yn codi. Yn sgil hynny, rydym yn gweithio ochr yn ochr â thîm rheoli achosion y Bwrdd Iechyd i gefnogi unrhyw aelod o staff drwy unrhyw ddigwyddiad o drais, ymddygiad ymosodol neu os ydynt yn dioddef trosedd.”
Er gwaethaf difrifoldeb y swydd, dywedodd PC Baggett ei fod yn “chwerthin bob dydd” oherwydd y bobl y mae’n cael rhyngweithio â nhw.
“Ar gyfartaledd, mae tua 19,500 o bobl yn ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru y dydd. Mae hynny’n debyg i nifer trigolion tref Aberystwyth, felly bydd hynny’n rhoi ryw syniad i chi o ba mor brysur yw hi. Rydyn ni’n gweld pobl o bob math o gefndiroedd, o’r staff, i’r ymwelwyr, i’r cleifion ifanc ar y wardiau yn yr ysbyty plant. Rydyn ni hefyd yn gwneud llawer o bethau gyda Ronald McDonald House. Mae’n amrywiol iawn.”
Ym mis Mehefin, lansiodd PC Baggett fenter newydd o’r enw Walkie Talkie, sy’n gwahodd staff ac aelodau’r gymuned i fynd ar daith gerdded dorfol o amgylch Parc y Mynydd Bychan bob amser cinio dydd Mercher. Y nod yw i bobl fod yn agored am eu hiechyd meddwl mewn man diogel.
“Rydym am annog pobl i ddod allan o’u hamgylchedd gwaith a chael seibiant yn yr awyr iach yn ardal wyrdd agored Parc y Mynydd Bychan. “P’un a ydych yn nyrs yn yr uned achosion brys, yn weithiwr swyddfa neu efallai'n rhywun nad yw’n cael y cyfle i fynd allan ar eu hegwyl mor aml â hynny - byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan.
“Mae’n gwneud yr hyn y mae’n ei ddweud ar y tun: byddwn yn cerdded ac yn siarad. Os bydd rhywun eisiau bod yn agored am rywbeth yn eu bywyd cartref, gallwn wneud hynny. Os bydd rhywun dim ond eisiau trafod eu diwrnod gwaith a rhyddhau emosiynau, fe allwn ni wneud hynny hefyd. Gobeithio y gall pobl ddadlwytho yn ystod y daith gerdded a theimlo’n llawer gwell erbyn diwedd y daith.”
Mae PC Baggett hefyd yn chwarae pêl-droed i dîm Cyn-filwyr Heddlu De Cymru ac mae newydd ddychwelyd o dwrnamaint Ewropeaidd yn Salou, ger Barcelona, lle daethant yn drydydd.
-
I ddarganfod mwy am grŵp cerdded wythnosol PC Baggett, Walkie Talkie, a gynlluniwyd i helpu pobl i siarad am eu hiechyd meddwl, ewch i: Walkie Talkie: y grŵp cerdded wythnosol newydd a gynlluniwyd i helpu pobl i siarad am eu hiechyd meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales).
Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.
I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)