Neidio i'r prif gynnwy

Dan Sylw - Luke Maxwell

Dan Sylw - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a

Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

Bob mis, bydd yr ymgyrch ‘Dan Sylw’ yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.


Luke Maxwell, Dechnolegydd Deintyddol, DanSylw Dan Sylw y mis hwn mae Luke Maxwell. Mae Luke yn Dechnolegydd Deintyddol. Mae wedi gweithio yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn BIP Caerdydd a’r Fro ers 2008.

Yn ogystal â rhedeg adran y Goron a’r Bont, mae Luke yn dylunio platiau metel yn ddigidol a ddefnyddir i gymryd lle rhannau o’r benglog. Mae'r mewnblaniadau adluniol hyn ar gyfer cleifion sy'n cael llawdriniaeth naill ai oherwydd eu bod wedi dioddef trawma i'r pen neu fod ganddynt dyfiant anfalaen neu ganseraidd yn yr ên, yr wyneb neu waelod y benglog.

“Dysgais am dechnoleg ddeintyddol gyntaf ym mlwyddyn 9. Roeddwn i'n arfer dal bws bob dydd yn yr Eglwys Newydd. Byddwn yn cerdded heibio ffenestr y labordy deintyddol hwn, yn edrych i mewn ac yn gwylio'r bobl hyn yn gweithio ar ddannedd. Roeddwn i'n hoffi ceir ar y pryd, ac roedd gan bob un ohonynt geir neis, felly meddyliais 'Rhaid i mi wneud hyn!'

“Roedd fy nhad yn athro peirianneg yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, felly dwi bob amser wedi bod â meddwl peirianneg. Roeddwn i'n hoffi gweithio gyda fy nwylo. Rwy'n ddyslecsig felly doeddwn i ddim yn mynd i wneud yn dda mewn neuadd ddarlithio gyda 250 o bobl. Roedd rhywbeth ymarferol gyda grŵp llai yn swnio'n dda. Cefais wybod eu bod yn cynnig cwrs yn UWIC [Prifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn] felly dyna wnes i. Cymhwysais yn 2005 a dechreuais yma dair blynedd yn ddiweddarach.”

“Roeddwn i’n gweithio yn adran y Goron a’r Bont yn gwneud dannedd ond wedyn dechreuais sylwi ar bethau newydd fel platiau gên a phlatiau penglog. A byddwn i'n cwestiynu beth oedden nhw, ac yn holi a allwn i roi cynnig arni, ac ar ôl gwylltio digon o bobl fe wnaethon nhw ddweud ‘iawn, cer amdani!”.

Ddeuddeg mlynedd yn ôl, byddai Luke yn siapio'r platiau adluniol yn asgwrn yr ên â llaw gan ddefnyddio gefail bwrpasol i blygu'r platiau metel. Gallai'r broses gymryd hyd at ddau ddiwrnod a byddai angen ei haddasu ymhellach yn y theatr gan y llawfeddygon.

Nawr mae Luke yn gweithio yn yr ystafell CAD bwrpasol yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol i gynhyrchu mewnblaniadau yn ddigidol i fesuriadau manwl gywir. Mae'n defnyddio meddalwedd o'r enw GeoMagic Freeform Plus a braich haptig sy'n rhoi adborth corfforol, gan efelychu'r teimlad o gerfio neu leoli.

“Ddeng mlynedd yn ôl, sefydlodd y bwrdd iechyd gytundeb cyfalaf cymdeithasol pum mlynedd gyda chwmni sy’n gweithgynhyrchu argraffwyr 3D. Roedd hyn o fudd i’r ddwy ochr. Fe wnaethon nhw roi llawer o offer i ni ac argraffu ein holl waith metel - coronau a phontydd, dannedd gosod a'r holl waith titaniwm a wnaethom - boed yn asgwrn yr ên , llawr orbital, plât cranioplasti neu blât penglog. Ac fe wnaethom ni roi llawer o wybodaeth iddynt o ran pa fath o orffeniad y byddem yn ei ddisgwyl.”

“Nawr gallwn dreulio diwrnod a hanner i ddau ddiwrnod yn cynllunio, anfon pethau i ffwrdd i gael eu gweithgynhyrchu'n allanol ac rydym yn eu cael yn ôl, yn gwirio popeth ac yn eu sterileiddio. Dyna'r datblygiad gyda'r labordy. Gall fod yn waith tîm i raddau helaeth os ydych chi’n cael ychydig o drafferth, mae'n bwysig bod yna bobl o'ch cwmpas a all ddarparu'r gefnogaeth honno yn y tîm.

“Gallaf nawr wneud canllawiau i'r llawfeddyg dorri yn eu herbyn gyda safleoedd tyllau wedi'u drilio ymlaen llaw. O ran leinio'r plât, maen nhw'n llythrennol yn leinio'r tyllau gyda'r plât. Trwy

ei wneud dan arweiniad fel hyn rydym yn arbed tua 2.5 awr o amser theatr. Mae gan y llawfeddygon ddigon i ddelio ag ef felly os gallwn ddarparu ychydig o gymorth o ran rhoi hyn yma, torri ar y tu mewn i'r llinell a bod y mewnblaniad yn ffitio, dyna fy ngwaith i wedi'i wneud.

“Rwyf wedi hyfforddi fel technegydd deintyddol yn gwneud dannedd. Rwy'n teimlo fy mod yn gwneud mwy o wahaniaeth i fywyd rhywun. Mae'r rhain yn bobl sâl iawn sydd angen ymyrraeth i'w helpu. Os gallaf wneud unrhyw beth i helpu'r llawfeddyg i sicrhau canlyniad gwell, yna mae hynny'n rhoi mwy o foddhad i mi. Ond dwi dal yn hoffi gwneud dannedd.”

 


Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.

I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)

Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.

Dilynwch ni