O Dan Sylw y mis hwn mae Jacob Parkinson, Arbenigwr Atal Twyll Lleol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Mae ei rôl yn canolbwyntio ar ddiogelu adnoddau'r GIG, cefnogi staff i atal twyll, a helpu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gyfrifol.
Ymunodd Jacob Parkinson â'r tîm Arbenigwyr Atal Twyll Lleol bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'n rhan o dîm bach o bedwar cyn-swyddog heddlu sy'n gweithio ar draws nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Bu Jacob yn gweithio i Heddlu De Cymru yn flaenorol lle'r oedd wedi'i leoli ym Mhort Talbot ac yna Abertawe.
“Roeddwn i wrth fy modd yn yr heddlu,” meddai Jacob. “Roeddwn i bob amser yn meddwl y byddwn i yn yr heddlu tan y diwrnod y byddwn i’n ymddeol. Ond cododd y cyfle hwn, ac roedd yn cynnig ffordd o fyw sy’n fwy ystyriol o’r teulu. Dw i wrth fy modd â'r swydd hon hefyd oherwydd dw i'n dal i fod yn y byd hwnnw o ymchwilio a gwneud gwahaniaeth. Yn y pen draw, rydym i gyd yn cyfrannu at y GIG ac eisiau osgoi unrhyw straen ychwanegol a achosir gan dwyll.”
Mae gwaith Jacob yn canolbwyntio ar atal ac ymchwilio i dwyll. Mae'r tîm yn derbyn atgyfeiriadau gan gydweithwyr y GIG a'r cyhoedd.
“Rydym yn trin pob ymchwiliad a gawn yn union fel y byddem yn yr heddlu. Byddem yn cynnal ymholiadau, yn cymryd datganiadau ac, os byddai'n rhaid, yn cynnal cyfweliadau dan rybudd, gan roi cyfle i'r person roi ei ochr nhw o'r stori. Mae'r rhain yn wirfoddol, a gall cyfreithiwr fod yn bresennol.
“Ar ôl y cyfweliad, byddem yn rhoi’r holl wybodaeth honno at ei gilydd ac os byddem yn teimlo bod achos, byddem yn llunio ffeil o dystiolaeth i’w chyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron a byddent yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar hynny.”
Gall twyll fod ar sawl ffurf, o sgamiau gwe-rwydo, i cymwysterau ffug ar geisiadau am swyddi. Y tu hwnt i ymchwiliadau, mae'r tîm hefyd yn cynnal asesiadau risg twyll ar draws adrannau, gan helpu i nodi gwendidau a chryfhau gweithdrefnau. "Rydym yn nodi unrhyw fylchau neu feysydd a allai fod yn agored i dwyll, fel y gall timau roi gweithdrefnau ar waith i atal twyll."
Un o hoff rannau Jacob o'r rôl yw cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth i staff a myfyrwyr. Mae'n siarad yn rheolaidd â myfyrwyr nyrsio, myfyrwyr meddygol, a thimau ar draws y Bwrdd Iechyd, gan eu helpu i ddeall beth yw twyll a sut i'w osgoi.
Y tu allan i'r gwaith, mae Jacob yn angerddol am bêl-droed ac yn gefnogwr brwd o Newcastle United, ac yn briodol iawn yn gefnogwr mawr o uwcharwyr Marvel a DC.
Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.
Bob mis, bydd yr ymgyrch Dan Sylw yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.
Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.