Bob mis, bydd yr ymgyrch Dan Sylw yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.
Dan Sylw y mis hwn mae Corey Davies. Mae Corey Davies yn Wyddonydd Clinigol o fewn y gwasanaeth Gweithrediad yr Ysgyfaint ac Apnoea Cwsg. Yn ddiweddar, cafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Rising Star yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU sydd ar ddod.
Mae Corey Davies yn Wyddonydd Clinigol o fewn y gwasanaeth Gweithrediad yr Ysgyfaint ac Apnoea Cwsg yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae'r gwasanaeth yn gweld cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddygon teulu a'u meddygon ymgynghorol am broblemau anadlol fel Asthma a COPD, neu broblemau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â chwsg fel apnoea cwsg ataliol.
Ymunodd Corey â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn wreiddiol yn 2019 fel Ffisiolegydd Resbiradol, ac ailymunodd yn ystod pandemig COVID-19 ar ôl cyfnod byr i ffwrdd yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg. Dechreuodd yn 2020 fel Gwyddonydd Clinigol dan hyfforddiant ac mae wedi datblygu i fod yn Arweinydd Clinigol yn ei adran. Yn ddiweddar, cafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Rising Star yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU sydd ar ddod.
“Rydym yn cynnig gwasanaeth diagnostig yn bennaf,” meddai Corey. “Rydym yn cynnal sawl prawf gwahanol, gan edrych ar amrywiadau yng ngweithrediad yr ysgyfaint. Yn y bôn, rydym yn canfod a oes gan yr unigolyn unrhyw fath o ffisioleg annormal ac yna'n adrodd hynny yn ôl i'r meddyg ymgynghorol sy’n atgyfeirio.”
Gan adeiladu ar y gwasanaeth craidd hwn, mae Corey wedi bod yn peilota clinig dan arweiniad ffisioleg yn ddiweddar ar gyfer cleifion â Chlefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint (ILD), cyflwr ysgyfeiniol sy'n gwaethygu. “Yn draddodiadol, byddai meddyg ymgynghorol yn sefydlu diagnosis o ILD, lle mae llawer o gleifion yn cael eu gweld bob 6 neu 12 mis ac yn dioddef cyfnod o sefydlogrwydd y clefyd. O fewn ffisioleg rydym wedi ymgymryd â rheoli'r grŵp hwn o gleifion.”
“O'r blaen, dim ond diagnosteg fydden ni'n ei chynnal, ond o ran sgiliau rydyn ni’n llawer mwy parod nawr ac yn gallu defnyddio rhaglenni hyfforddi modern i wneud mwy. Felly, rydym wedi bod yn cynnal cynllun peilot ar gyfer gwneud y profion a chynnal yr adolygiad clinigol ar yr un pryd.
“Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. I'r claf, mae'n un neu ddau ymweliad yn llai â'r ysbyty y flwyddyn. Mae hefyd wedi gwella argaeledd y meddyg ymgynghorol fel y gallant ganolbwyntio ar atgyfeiriadau newydd.” Am ei effaith, dyfarnwyd y wobr 'gwella mynediad at ofal' i Corey yng Ngwobrau Gwyddoniaeth Gofal Iechyd Caerdydd a'r Fro 2024.
Pan ofynnwyd iddo beth y mae'n ei hoffi fwyaf am y rôl, cyfeiriodd Corey at yr amrywiaeth. Dywedodd: “Fydd gen i ddim dau ddiwrnod yr un fath. Mae gwasanaethau diagnostig yn gyffredinol yn eithaf safonol; yn dechnegol dylai pob prawf fod yr un fath i bob person. Ond mae'n dibynnu ar y claf, felly rydych chi'n ceisio hyfforddi rhywun i wneud prawf anadlu, er enghraifft, a'u hyfforddi trwy'r dechneg. Felly, mae pob profiad yn wahanol iawn. Mae weithiau'n heriol, ond mae'n eich cadw ar flaenau eich traed bob dydd.”
Mae ei rôl fel Arweinydd Clinigol hefyd yn dod â'r cyfle i fentora aelodau iau o'r tîm a myfyrwyr, rhywbeth y mae Corey yn ei chael yr un mor foddhaol. “Rwy’n cael trosglwyddo llawer o ddysgu, gwybodaeth a thechnegau wrth fentora hyfforddeion ar hyd eu rhaglen hyfforddi. Mae gweld pobl yn datblygu ac yn magu hyder yn wirioneddol werth chweil.”
Ni thyfodd Corey i fyny yn breuddwydio am fod yn Wyddonydd Clinigol ond unwaith iddo gael y syniad, gwyddai mai dyma oedd y llwybr iawn iddo ef. “Roeddwn i bob amser yn hoffi gwyddoniaeth ac astudiais fforensig yn y coleg. Ond mae Ffisioleg yn un o'r pethau hynny rydych chi'n dod ar ei draws yn anfwriadol. Mae'n yrfa nad yw’n cael ei hysbysebu’n ddigonol, ond unwaith i mi ddod o hyd i'r cwrs roedd yn rhywbeth y gwnes i gymryd ato’n syth, a’i fwynhau'n fawr. Fe wnes i hynny ar lefel israddedig ac yna fe wnes i fy Meistr mewn Gwyddoniaeth Glinigol. Fel Tîm rydym yn hyrwyddo'r yrfa'n weithredol i wella cydnabyddiaeth trwy wneud gwaith allgymorth mewn ysgolion a cholegau lleol ledled Caerdydd.”
Mae Corey hefyd newydd gwblhau secondiad naw mis gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel Arweinydd Clinigol ar gyfer Ffisioleg. Fel rhan o'r rhaglen, bu Corey yn gweithio gyda chyrff cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i archwilio beth sy'n gweithio—a beth sydd ddim—ar draws gwasanaethau ffisioleg yn genedlaethol.
“Edrychon ni ar ba feysydd sy’n gweithio’n dda, beth allwn ni ei wneud yn wahanol a sut allwn ni drawsnewid gwasanaethau i weithio’n fwy effeithlon ac yn fwy swyddogaethol. Roedd yn rôl heriol, ond yn rhywbeth y dysgais lawer o wersi ohono ac fe ehangodd yn fawr fy mhersbectif o wyddor gofal iechyd”
Wrth siarad am ei enwebiad am wobr yn ddiweddar, dywedodd Corey: “Teimlais fraint wirioneddol. Dydw i ddim y person mwyaf allblyg, a dwi ddim yn rhywun sy’n hoffi cael llawer o sylw. Rydw i'n cadw at fy hun yn fawr iawn ac yn gweithio'n galed gyda'r tîm o'm cwmpas, ond roeddwn i'n hapus iawn amdano
“Rwy’n credu fy mod ond wedi gallu cyrraedd y pwynt hwn oherwydd amgylchedd y tîm yn Gweithrediad yr Ysgyfaint. Rydw i wedi cael rheolwr a mentoraeth dda iawn ar hyd fy nhaith hyd yn hyn, rhywbeth rydw i'n teimlo fy mod i nawr yn ceisio ei efelychu i'r rhai rydw i'n eu mentora. Er fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr AHA, mae'n ganlyniad llwyr i ymdrech y tîm a hoffwn ddangos ychydig o werthfawrogiad iddyn nhw hefyd.”
Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.
I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)
Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.