21 Gorffennaf 2022
Gwyddom fod delio â cholli rhywun agos yn golygu gorfod wynebu her emosiynol heb ei thebyg ac nid oes prinder cyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o ofalu amdanom ein hunain.
I lawer, yr hyn sy’n helpu yw cyfuniad o gefnogaeth; bod gydag eraill sydd wir yn deall yr emosiynau sy’n cael eu profi, cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, a mwynhau bod allan yn cysylltu â’r byd naturiol.
Gwyddom fod bod yn actif gydag eraill yn yr awyr agored yn gallu lleihau lefelau straen, eich helpu i fagu nerth ac yn rhoi lle ac amser i chi fyfyrio a gwella.
Mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Down to Earth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal sesiwn blasu i unrhyw un sy’n delio â cholled a phrofedigaeth i ddod i ymuno ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg ac i gymryd rhan yn natblygiad y Ddôl Iechyd.
Mae’r Ddôl Iechyd yn brosiect bioamrywiaeth gwych sydd wedi’i leoli ym mhen uchaf safle Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r prosiect yn ymgysylltu â’r ysbyty a chymunedau lleol i wella a meithrin yr ardal awyr agored wych hon fel lleoliad lle gall pobl ddod i gymryd rhan mewn gweithgareddau, myfyrdod a phrofi tawelwch am genedlaethau i ddod.
Cynhelir y sesiwn blasu ddydd Llun, 1 Awst rhwng 10.30am a 2.30pm. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbennig arnoch, dim ond eich brwdfrydedd a’ch cwmni.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal boed glaw neu hindda, felly rydym yn argymell gwisgo dillad priodol ar gyfer y tywydd. Bydd esgidiau cerdded, menig a dillad gwrth-ddŵr i gyd yn cael eu darparu os bydd angen.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda nifer o randdeiliaid a phartneriaid yn y Trydydd Sector gyda’r bwriad o ddatblygu gwasanaeth cymorth profedigaeth yn rhan o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP).
Mae gwaith wedi’i wneud gan Mark Jones, Gweithiwr Datblygu Cymorth Profedigaeth, i estyn allan at bobl sy’n hysbys i’r gwasanaeth yn eu rolau fel gofalwyr ac a wynebodd brofedigaeth rhwng 2020 a 2021.
Mae sesiynau gweithgareddau cymdeithasol wedi’u sefydlu ar ffurf corau, gweithgareddau awyr agored yn Ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, grwpiau cerdded a mwy. Bydd y ffordd y mae’r mentrau hyn yn esblygu yn unol â chyfarwyddyd cyfranogwyr.
Ar hyn o bryd, rydym ar ddechrau’r hyn y gallech ei alw’n cyd-ddarganfod, a fydd yn chwarae rhan werthfawr wrth gyd-gynhyrchu gwasanaeth.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.