Mae Coleg Adfer a Lles yn darparu ystod o gyrsiau rhad ac am ddim ar bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles ar gyfer y rhai sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff.
Mae’r cyrsiau sydd ar gael gennym yn cael eu cyd-gynhyrchu gan bobl sydd â phrofiadau bywyd o heriau iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal ag ymarferwyr iechyd meddwl. Mae ein cyrsiau yn hygyrch i bawb, ac rydym yn gwahodd y rhai sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl, gofalwyr, a staff i gofrestru.
Os hoffech gofrestru fel myfyriwr a chofrestru ar ein cyrsiau, neu i fewngofnodi i’ch cyfrif, dilynwch y ddolen isod.