Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys Llysiau Organig o Gymru mewn Prydau Ysgolion Cynradd yng Nghymru

13 Mai 2024

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cydlynu prosiect sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru isicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl. Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022. Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.

Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch - rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’. Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Gallwch hefyd wylio fideo sy’n esbonio’r prosiect yma.

Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.

“Prif nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yw sicrhau bod llysiau lleol wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy yn cael eu defnyddio mewn ysgolion i ddarparu maeth i’r plant drwy brydau ysgol – y mwyaf o gynnydd y byddwn yn ei wneud, y mwyaf o fanteision y gallwn eu darparu iddyn nhw,” meddai Katie Palmer, un o reolwyr Synnwyr Bwyd Cymru.

“Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen i ni allu creu ein cyflenwad ein hunain er budd cymunedau lleol ac er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr bwyd lleol â chyfanwerthwyr lleol a chreu cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.

“Rydym wedi wynebu nifer o heriau technegol, strwythurol a heriau’n ymwneud â’r tywydd yn ystod pob cam o’r cynllun peilot ond roedd creu cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi gyda rhanddeiliaid a defnyddio eu harbenigedd ym maes garddwriaeth yn allweddol,” meddai Katie Palmer. “Roedd hynny’n amrywio o ganfod gofynion ceginau ysgol neu benderfynu moron o ba faint y dylid eu tyfu, i ddatblygu cynlluniau achredu a chyfrifo’r logisteg, cyflenwad a datblygu’r cynnyrch – roedd gennym lawer o waith i’w wneud ond mae’r holl bartneriaid wedi buddsoddi’n helaeth yn y gwaith ac yn benderfynol o weld mwy o fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn cael ei weini ar blatiau’r cyhoedd yng Nghymru.”

Meddai Edward Morgan o Castell Howell: “Fel un o’r dolenni cyswllt yn y gadwyn gyflenwi, rydym yn cyflenwi bwyd i oddeutu 1,000 o ysgolion ledled Cymru, ac yn cydnabod pa mor bwysig yw ailstrwythuro’r ffynonellau. Mae cydweithio â rhanddeiliaid o’r un anian, ffermwyr brwdfrydig, tyfwyr bwyd a chwsmeriaid ymrwymedig yn hollbwysig i ni allu cyflawni ein nodau cyffredin, nid dim ond o ran cyflenwi llysiau wedi’u tyfu yng Nghymru ond o ran darparu gwybodaeth a thrafod y risgiau a’r cyfleoedd mewn ffordd gwbl dryloyw. Rydym yn falch o fod yn rhan o fenter sydd wedi datblygu o gyflenwi tunnell o courgettes yn 2022 ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyn yn parhau ac yn datblygu i fod yn rhywbeth mawr

Meddai Tony Little, o’r Ymgynghoriaeth Ffermio Cynaliadwy: “Mae’r prosiect hwn yn paratoi’r ffordd i lawer mwy o dyfwyr bwyd gymryd rhan yn y broses o gyflenwi’r farchnad caffael cyhoeddus. Mae’n gyfle anhygoel i archwilio sut y gallwn sefydlu cadwyni cyflenwisy’n gweithio i bawb, yn amrywio o ddatblygu safonau cynhyrchu sy’n briodol i dyfwyr organig bach isefydlu systemau cyfathrebu a logisteg sy’n galluogi tyfwyr bwyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r farchnad hon yn eu cynnig.”

Mae’r adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn rhan annatod o ddatblygu cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru ac yn rhan hanfodol o ddatblygu’r sector garddwriaeth yng Nghymru.

“Mae’r gwaith hwn yn creu llwybr i’r farchnad sy’n lleihau risg, sy’n golygu bod modd cynllunio ymlaen llaw ac sy’n cynorthwyo gyda thwf y sector gan alluogi mwy o bobl i brofi ansawdd y bwyd y gall Cymru ei gynhyrchu,” meddai Sarah Gould o adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio. “Mae’r math o gymorth rydym yn ei gynnig i dyfwyr bwyd yn golygu ein bod hefyd yn helpu i godi safonau a rhannu arfer gorau. Mae’r prosiect yn un cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi hyd yn oed mwy o dyfwyr bwyd i fod yn rhan o’r cynllun peilot.”

Mae Hannah Gibbs o Pontio’r Bwlch yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru. “Rydym yn falch o gefnogi’r cynllun peilot hwn i’w ddatblygu ymhellach ac i ychwanegu at y dystiolaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau cynaliadwy sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol yn mynd i mewn i’r gadwyn cyflenwi bwyd gyhoeddus. Mae’r bartneriaeth anhygoel hon hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd gwych i ni ddysgu ar y cyd drwy’r cynlluniau peilot Pontio’r Bwlch mewn ysgolion eraill yn Yr Alban a Lloegr.”

Ychwanegodd Dr Amber Wheeler sy’n arwain y gwaith ymchwil ar y camau gweithredu: “Ar hyn o bryd daw’r rhan fwyaf o’r llysiau ar gyfer Ysgolion Cymru o wlad arall ac maent wedi’u rhewi fel arfer. Dengys y cynllun peilot hwn ei bod yn bosibl cynyddu faint o gynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru, a chefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr drwy wneud hynny, drwy ddefnyddio marchnad y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Awdurdodau Lleol. Rydym yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu’r systemau sydd eu hangen i ddarparu mwy o Lysiau o Gymru sy’n iach a ffres mewn ysgolion a hynny tra’n cefnogi systemau ffermio sy’n gwella’r amgylchedd yma yng Nghymru.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru yma.

Dilynwch ni