26 Mawrth 2025
Mae gwerthusiad newydd mawr wedi nodi sut y gellir gwella gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda diabetes math 2 ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gweithio’n agos ag economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â phanel o arbenigwyr iechyd a chleifion, i nodi gwasanaethau diabetes presennol a phenderfynu ar ble y dylid cyfeirio’r cyllid i gael yr effaith fwyaf yn y dyfodol.
Mae cleifion â diabetes math 2 mewn mwy o berygl o gael clefyd y galon, strôc, a llawer o gyflyrau iechyd eraill. Yn bennaf oherwydd tueddiadau gordewdra yn y boblogaeth, mae pobl hefyd yn datblygu diabetes yn iau.
Gyda nifer yr achosion o ddiabetes yn cynyddu ledled Cymru, mae angen buddsoddi ar frys mewn gwell dulliau atal a gofal. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, gallai tua un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035, gan roi straen aruthrol ar wasanaethau’r GIG.
Ar ôl misoedd o ymchwil ac ymgynghori ag arbenigwyr diabetes, darparwyr gofal iechyd, a chynrychiolwyr cleifion, nodwyd chwe maes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwerthusiad. Gan ddefnyddio dulliau Cyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol (PBMA), y prif argymhellion yw:
1. Mwy o nyrsys diabetes arbenigol (DSNs) yn y gymuned - bydd nyrsys yn helpu cleifion i adolygu eu meddyginiaethau, gwella cynlluniau triniaeth, a lleihau presgripsiynau diangen.
2. Ehangu Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan – Dylid ymestyn y rhaglen i fwy o feddygfeydd, gan helpu pobl sydd mewn perygl o gael diabetes i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw sy’n atal y clefyd.
3. Nyrsys diabetes arbenigol mewn ysbytai - Mwy o nyrsys i gael eu hyfforddi i gefnogi pobl â diabetes cyn ac ar ôl llawdriniaeth, gan leihau cymhlethdodau ac arosiadau yn yr ysbyty.
4. Mwy o le ar gyfer gwasanaethau diabetes cymunedol – Mannau clinigol newydd i’w creu i ddarparu mynediad haws at ofal diabetes mewn lleoliadau cymunedol.
5. Gwell addysg i blant a phobl ifanc – Rhaglen strwythuredig i helpu plant a phobl ifanc sydd â diabetes math 2, a’u teuluoedd, i ddeall diabetes a’i reoli’n effeithiol.
6. Cymorth ymarfer corff i bobl sydd mewn perygl o gael diabetes - Mwy o weithwyr proffesiynol ymarfer corff ar gael i helpu pobl i fabwysiadu arferion iach a lleihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2.
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, arbenigwraig economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor: “Trwy ganolbwyntio ar atal a gofal o ansawdd uchel, gallwn leihau effaith hirdymor diabetes ar fywydau pobl ac ar adnoddau’r GIG. Bydd buddsoddi yn y meysydd ataliol allweddol hyn nid yn unig yn gwella canlyniadau cleifion, ond hefyd yn helpu i leddfu pwysau ar wasanaethau gofal iechyd. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at greu agwedd fwy cynaliadwy ac effeithiol at ofal diabetes.”
Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn gweithio i roi’r newidiadau hyn ar waith a sicrhau bod gwasanaethau diabetes yng Nghaerdydd a’r Fro yn fwy effeithiol, hygyrch, ac yn canolbwyntio ar y claf.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.