Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio: Sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i leihau ôl troed carbon y Bwrdd Iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn galw ar bob cydweithiwr i chwarae ei ran i leihau ôl troed carbon y sefydliad.

Mae GIG Cymru wedi gosod targed i’r Bwrdd Iechyd gyflawni gostyngiad o 16% mewn allyriadau carbon erbyn 2025 a gostyngiad o 34% erbyn 2030.

Mae Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio newydd a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno ‘galwad i weithredu’ i weithwyr y bwrdd iechyd, gan nodi ychydig o gamau syml y gall cydweithwyr eu cymryd i leihau eu hôl troed carbon, gan gynnwys:

  • diffodd goleuadau ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio;
  • cael gwared ar wastraff yn gywir;
  • defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio lle bo modd;
  • gan ddefnyddio’r tri chais blaenorol, meddwl am sut y gall unigolion gyflawni gwaith mewn ffordd sy’n cyfyngu eu heffaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Calum Shaw, Rheolwr Gwella Cynaliadwyedd Amgylcheddol: “Er y gallai’r rhain ymddangos yn fach, rydym wedi gweld enghreifftiau o arbedion mawr yn cael eu cyflawni o weithredoedd sy’n ymddangos yn gymharol syml. Er enghraifft, mae diffodd un ddyfais feddygol yn ein hysbyty deintyddol y tu allan i oriau wedi osgoi gwariant o dros £15,000 y flwyddyn mewn costau ynni.

“Mae gennym ni weithlu sylweddol gyda mwy nag erioed yn chwarae rhan weithredol wrth leihau ein hallyriadau. Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau a’n targedau, bydd angen i ni wneud mwy i ysgogi pawb i chwarae eu rhan.

“Fel sefydliad, rydym yn cydnabod, oni bai ein bod yn gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn darparu gofal, y bydd newid yn yr hinsawdd yn parhau i waethygu ein gallu i ddarparu gwasanaethau. Nid argyfwng hinsawdd yn unig yw hwn, mae’n argyfwng iechyd.”

Yn ôl y Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio, amcangyfrifwyd bod allyriadau carbon y Bwrdd Iechyd yn 2022-23 yn unig yn 217,000 tunnell – cynnydd o 7% yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny’n cyfateb i bob un o’n 16,000 aelod o staff yn hedfan o amgylch y byd deirgwaith yr un.

Amcangyfrifir bod 80% o’r allyriadau carbon hyn yn cynnwys cynhyrchion a gwasanaethau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu prynu i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Mae’n syndod efallai mai dim ond tua 16% o’r allyriadau gafodd eu creu drwy’r ynni a ddefnyddiwn i redeg offer, gwresogi adeiladau a goleuo ystafelloedd.

Mae’r allyriadau y mae’r Bwrdd Iechyd yn gallu eu rheoli – fel nwy, trydan, petrol a diesel – wedi parhau i leihau ers 2018-19 diolch i fesurau effeithlonrwydd ynni. Ond mae’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd, ynghyd â thwf ein poblogaeth, yn golygu bod ceisio cadw ein hôl troed carbon i isel yn parhau i fod yn her sylweddol.

“Mae’n fesur bras, ond mae edrych ar faint o arian rydych chi wedi’i wario yn un o’r ffyrdd y gallwch chi ddweud beth yw ôl troed carbon rhywbeth,” esboniodd Calum.

“Rydym yn gwario mwy o arian ar gynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd, ac felly mae ein hôl troed carbon yn cynyddu hefyd.

“Yn syml, mae ein hôl troed carbon yn gysylltiedig yn uniongyrchol â faint o ofal iechyd rydyn ni’n ei ddarparu ac, wrth weld cynnydd yng ngweithgarwch cleifion, rydym yn wynebu brwydr anodd.”

Er gwaethaf yr heriau sylweddol hyn, cafwyd sawl stori o lwyddiant yn ddiweddar o fewn y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys:

  • Gostyngiad carbon blynyddol o 500 tunnell yn y defnydd blynyddol o ocsid nitrus diolch i gydweithrediad rhwng timau anestheteg, fferylliaeth ac ystadau.
  • Staff yr ICU yn cael gwared ar y defnydd diangen o ddŵr di-haint a, gyda chymeradwyaeth yr adran atal a rheoli heintiau, yn cynnig dŵr tap yn lle hynny - gan arbed 600kg o garbon a £11,000 yn y broses.
  • Fel rhan o’r rhaglen Re:Fit a gaiff ei chefnogi gan grant, sy’n cynnwys gosod goleuadau mwy effeithlon o ran ynni a deunydd lagio pibellau, bu arbediad carbon pellach o 300 tunnell y flwyddyn.

Diolch byth, mae llawer o flaenoriaethau’r sefydliad yn helpu i osgoi carbon, gan gynnwys gwaith parhaus ynghylch cynaliadwyedd ariannol, hyd arhosiad, y chwe nod ar gyfer gofal brys a’r agenda atal.

“Y math gorau o ofal iechyd cynaliadwy yw gofal iechyd nad oes angen ei ddarparu o gwbl, a dyna pam mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar yr agenda atal honno,” ychwanegodd Calum.

“Mae hefyd angen i ni feddwl am gynllun ynghylch addasu. Rydym yn gwybod y bydd Caerdydd a’r Fro yn fwynach ac yn wlypach yn ystod y gaeaf ac yn gynhesach yn ystod yr haf dros y blynyddoedd i ddod, ac mae angen i ni ymateb i hynny o ran sut rydym yn gwresogi ac yn oeri ein hadeiladau. Mae hefyd angen i ni asesu beth mae’r newidiadau hynny’n ei olygu i iechyd ein poblogaeth.”

I ddarllen y Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio yn llawn, ewch yma.

Dilynwch ni