Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i gleifion ac ymwelwyr sy'n mynychu ein hysbytai

08 Rhagfyr 2023

Rydym yn gweld cynnydd mewn salwch heintus sy’n cylchredeg yn ein cymunedau ar draws Caerdydd a’r Fro. Mae'r afiechydon hyn yn cynnwys cyflyrau anadlol, fel y ffliw, COVID-19 ac annwyd tymhorol yn ogystal â heintiau feirysol gyda symptomau sy’n cynnwys dolur rhydd a chwydu.

Er mwyn helpu i gadw ein cleifion, eu teuluoedd a’n cydweithwyr yn ddiogel wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, rydym yn gofyn i bob ymwelydd â’n hysbytai i fynychu dim ond os ydych yn teimlo’n ffit ac yn iach. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn ymweld â theulu neu ffrindiau ar wardiau, neu os ydych yn mynychu apwyntiadau cleifion allanol.

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn gweithio i sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau lledaeniad heintiau. Rydym yn gofyn i’n cleifion allanol, ymwelwyr a chydweithwyr wneud yr un peth i’n helpu i gadw pobl yn ddiogel y gaeaf hwn.

Rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu yw:

  • Os oes gennych apwyntiad claf allanol, sgan neu glinig a'ch bod yn teimlo'n sâl, peidiwch â mynychu. Cysylltwch â'r tîm perthnasol ac esboniwch y sefyllfa ac aildrefnwch eich apwyntiad ar gyfer amser pan fyddwch chi'n teimlo'n well.
  • Os ydych yn ymweld ag aelod o’r teulu neu ffrind, a bod gennych symptomau cyflyrau anadlol neu heintiau feirysol, peidiwch â mynd i’r ward nes eich bod wedi bod yn rhydd o’ch symptomau am 48 awr.
  • Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n dda, parhewch i olchi'ch dwylo a defnyddio'r gorsafoedd diheintio alcohol cyn ymweld â'r wardiau ac wrth adael. Mae hyn i'ch cadw chi a'n cleifion yn ddiogel.

I'r rhai sydd am amddiffyn eu hunain rhag salwch tymhorol eleni, rydym yn annog ein cymunedau i gael brechlynnau atgyfnerthu yn erbyn COVID-19 a'r ffliw.

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus wrth helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni