Yn 2020, dioddefodd David White anaf difrifol i’r ymennydd ar ôl cwymp difrifol, ond ar ôl blynyddoedd o wella ac adsefydlu, mae David bellach yn rhoi o’i amser i wirfoddoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan gefnogi llawer o gleifion sydd wedi cael profiadau tebyg.
Torrodd David y rhan dde o'i benglog ar ôl cwympo yn dilyn diwrnod o saethu paent gyda ffrindiau. Cafodd ei roi mewn coma anwythol a chafodd sawl llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cafodd ddiagnosis o hemiparesis ochr chwith yn ddiweddarach a bu’n rhaid iddo wynebu'r her o ddysgu sut i gerdded, eistedd a defnyddio ei fraich chwith eto.
Ar ôl blynyddoedd o adferiad, adsefydlu a gwaith caled, roedd David yn benderfynol o ddod yn ôl i’r ward fel gwirfoddolwr a chefnogi cleifion sy’n wynebu’r un sefyllfa.
Mae wedi cael effaith aruthrol ar forâl cleifion trwy rannu ei brofiad bywyd ac ysbrydoli eu hadferiad. Mae'n trefnu gweithgareddau hwyliog ar gyfer y ward ac mae'n wyneb cyfeillgar i gleifion sgwrsio ag ef. Yn fwyaf diweddar, trefnodd David noson pizza a ffilm i gleifion ac aelodau eu teulu, gyda pizza am ddim yn cael ei roi gan Domino's. Dosbarthodd hefyd anrhegion Nadolig a roddwyd gan Tesco a chalendrau adfent a roddwyd gan JCP Solicitors ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Sefydlodd David hefyd grŵp cymorth ar-lein o’r enw NeuroBuds sy’n cefnogi cleifion sy’n byw gydag anafiadau i’r ymennydd a’r asgwrn cefn, ynghyd â’u teuluoedd.
Mae cydweithwyr y Bwrdd Iechyd sy’n gweithio ar ward adsefydlu Ysbyty Athrofaol Llandochau wrth eu bodd â’r gwaith y mae David yn ei wneud, ac mae erthygl am ei stori’n cael ei fframio yn y ward i roi gobaith i gleifion a pherthnasau ar gyfer y dyfodol.
“Roeddwn i yn yr ysbyty yn ystod anterth y pandemig felly ni chaniatawyd unrhyw ymwelwyr. Doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nheulu na ffrindiau a doedd gen i neb i siarad ag ef a oedd wedi bod yn yr un sefyllfa â mi, i weld sut allai bywyd fod wedyn,” mae David yn cofio.
“Roedd fy nheulu’n ei chael hi’n anodd iawn a hefyd yn dymuno’n fawr y gallen nhw fod wedi siarad â rhywun sydd wedi bod drwyddo, i gael mewnwelediad i sut gallai’r dyfodol edrych.” Mae NeuroBuds yn cysylltu teuluoedd sy'n mynd trwy'r profiad hwn, gan ddarparu rhwydwaith cymorth.
“Gan fod yr anaf i’r ymennydd wedi newid fy mywyd cymaint, rwyf nawr eisiau helpu’r rhai sy’n wynebu’r cyfnod hynod anodd hwn mewn unrhyw ffordd a allaf. Mae gwirfoddoli wedi fy ngalluogi i helpu, cefnogi a chyfathrebu â chleifion a'u teuluoedd mewn ffordd unigryw” meddai David.
Dywedodd Jordann Rowley, sy’n gweithio i’r Gwasanaethau Gwirfoddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Ni fyddem byth wedi gallu dychmygu faint o ymdrech y mae David yn ei wneud yn ei rôl ac i gefnogi nid yn unig ein cleifion ond eu teuluoedd. Mae’n gymaint o gaffaeliad i’r Bwrdd Iechyd ac rydym yn ffodus iawn i’w gael.”
Mae David yn edrych ymlaen at barhau â'i waith gwirfoddol ar Ward Gorllewin 10 a helpu llawer mwy o deuluoedd sy'n dioddef.