Neidio i'r prif gynnwy

Cymraes yn cychwyn ar daith gerdded anhygoel 25,000 o filltiroedd ar gyfer Alzheimer's a Parkrun

12 Hydref 2023

Mae Cymraes wedi cychwyn ar daith gerdded epig 25,000 o filltiroedd ar hyd arfordir a ffiniau siroedd Prydain ac Iwerddon i godi arian ar gyfer Alzheimer's Research UK.

Gwnaeth Karen Penny, sydd wedi ymddeol ar ôl gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol am 30 mlynedd, ddechrau ar ei thaith gerdded enfawr y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, 10 Hydref i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Ar ôl gweld effaith dementia ar rieni ei gŵr, Alma oedd â dementia fasgwlaidd a Kingsley oedd â chlefyd Alzheimer, penderfynodd Karen ymgymryd â’r her.

Rhwng 2019 a 2021, fe wnaeth hi wynebu’r gwaethaf o dywydd Prydain – a phandemig byd-eang – i gerdded ar hyd arfordir cyfan Prydain ac Iwerddon, gan godi mwy na £100,000 ar gyfer Alzheimer’s Research UK.

Ond nawr mae hi wedi dechrau her arall, hyd yn oed yn hirach, sy'n golygu cerdded o amgylch perimedr pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn gyntaf. Mae hi hefyd yn cyflawni’r her i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Parkrun, y mae Alzheimer's Research UK yn bartner elusennol iddo.

Dywedodd: “Yn 2021 bues i’n sâl am gyfnod hir. Yn ystod yr amseroedd caled hynny, gwnaeth cerdded fy helpu i wella’n sylweddol. Dyna pam rwy’n cyflawni’r daith gerdded hon, er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bod yn actif yn gorfforol ac yn gymdeithasol a’r effaith y gall hyn ei chael ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Nid oes angen i chi gerdded miloedd o filltiroedd ond gall gwneud rhywbeth mor syml â mynd am dro bach bob dydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Ar ei thaith gerdded newydd, bydd Karen yn mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf ynysig y DU ac Iwerddon a thros dir heriol.

Ychwanegodd: “Bydd Ffiniau’r Siroedd yn ychwanegu mwy o anhawster gan mai anaml y maent yn dilyn llwybrau ag arwyddbyst ac mae rhannau helaeth heb lwybrau clir. Byddaf yn cario fy sach deithio ac offer gwersylla ac yn debygol o dreulio 10 pâr o esgidiau cerdded.

“Bydd rhan gyntaf fy nhaith yn golygu cerdded ar hyd perimedrau holl fyrddau iechyd Cymru, rhyw 2,000 o filltiroedd, mewn cydweithrediad â Parkrun. Byddaf yn ymweld â digwyddiadau Parkrun wythnosol ar fy llwybr ledled Cymru.”

Ar fore Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, gwnaeth Karen a llawer o rai eraill gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Fiona Kinghorn, ymgasglu y tu allan i’r Senedd ar gyfer digwyddiad cerdded a rhedeg cymdeithasol. Llywyddwyd y digwyddiad gan John Griffiths MS a Parkrun, ac fe’i dilynwyd gan gyfarfod yn y Senedd.

Dywedodd Mr Griffiths: “Rwy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn fy Parkrun lleol ar hyd glan yr afon Casnewydd, felly mae wedi bod yn wych croesawu’r trefnwyr cenedlaethol i’r Senedd ar gyfer ein digwyddiad lles rhedeg/cerdded ein hunain.

“Dros y blynyddoedd rwyf wedi ei weld yn tyfu fel gweithgaredd, gan gynnwys datblygu Junior Parkrun, y mae fy ŵyr Cian bellach yn cymryd rhan ynddo yn Nhŷ Tredegar.

“Beth bynnag yw eich gallu neu brofiad, mae cymuned Parkrun yn hynod o groesawgar i bawb. Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, ein byrddau iechyd a phartneriaid eraill, rwy’n llawn cyffro i weld sut rydym yn ehangu cyrhaeddiad Parkruns ledled Cymru.” Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae cynnal Parkrun ar ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn rhywbeth gwych i’n hatgoffa mai bod yn actif yw un o’r ffyrdd gorau y gallwn hybu ein hiechyd corfforol a meddyliol.

“P’un a ydych yn cerdded, rhedeg neu wirfoddoli, mae Parkrun yn ffordd wych o wneud hyn ac mae eisoes yn nodwedd reolaidd o galendrau wythnosol llawer o bobl.”

Gwnaeth y digwyddiad ailgadarnhau cefnogaeth Parkrun i ddull presgripsiynu cymdeithasol sy'n gweld practisau gofal sylfaenol yn cysylltu â'u digwyddiad Parkrun lleol i hyrwyddo iechyd a lles staff a chleifion.

Mae tua 99 o bractisau meddygon teulu bellach wedi ymuno â menter practisau Parkrun yng Nghymru, sef tua 25% o'r holl bractisau ledled y wlad.

Mae partneriaeth ddatblygu newydd hefyd wedi'i chreu rhwng Parkrun a Grŵp Marathon Llundain. O dan y prosiect hwn, bydd Parkrun yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i ddatblygu Junior Parkrun ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Wrth grynhoi digwyddiad y bore, dywedodd Pennaeth Iechyd a Lles Parkrun UK, Chrissie Wellington OBE: “Roedd yn wych cysylltu â chymaint o bobl o ystod o wahanol sefydliadau. Does dim byd gwell na dechrau'r diwrnod gyda thaith gerdded neu redeg yng nghwmni'r rhai sy'n rhannu angerdd dros hybu iechyd a lles, a chael y cyfle i ddilyn hynny gyda sgyrsiau yn y Senedd. Mae creu newid yn gofyn am ymrwymiad a chydweithio agos, ac fe wnaeth y digwyddiad hwn ailddatgan awydd Parkrun i weithio gydag eraill i gyflawni ein hamcanion uchelgeisiol.”

Dywedodd yr Athro Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Roedd yn wych mynychu digwyddiad Parkrun yn y Senedd ar 10 Hydref i gwrdd a siarad â’n holl gyd-randdeiliaid i drafod pwysigrwydd Parkrun fel cyfrwng ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn ein cymunedau lleol, i helpu pobl i ofalu am eu lles corfforol ac iechyd meddwl ac i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol, lle maent am ddim ac ar gael i bawb."

Dechreuodd Parkrun yn 2004 gyda dim ond 13 o redwyr a phum gwirfoddolwr yn Bushy Park yn Llundain. Mae digwyddiadau bellach yn cael eu cynnal mewn mwy na 2,200 o leoliadau mewn 22 o wledydd ledled y byd. Dewch o hyd i'ch digwyddiad lleol neu cofrestrwch yn https://www.parkrun.org.uk/

Gallwch ddilyn taith Karen yma neu ymweld â'i thudalen JustGiving yma.

Dilynwch ni