Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ac adnoddau ar gyfer mamau newydd a darpar famau ar Sul y Mamau eleni

27 Mawrth 2025

Wrth i ni ddathlu Sul y Mamau eleni, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn tynnu sylw at y cymorth, y wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael i famau a rhieni. P’un a ydych chi’n disgwyl eich un bach, wedi croesawu eich babi yn ddiweddar neu’n rhiant i blentyn o dan 16 oed—mae llawer o adnoddau ar gael.  

GIG 111 Cymru - Canllaw Beichiogrwydd — Mae gan wefan GIG 111 Cymru lwyth o wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol am feichiogi, bod yn feichiog a gofalu am eich babi newydd. Mae hefyd yn cynnig canllawiau manwl o wythnos i wythnos a llawer o fideos arbenigol i rieni eu harchwilio. 

Atgyfeirio Beichiogrwydd i'r Gwasanaethau Mamolaeth — Os ydych chi'n feichiog o'r newydd, bydd angen i chi gofrestru eich beichiogrwydd gyda Gwasanaethau Mamolaeth y Bwrdd Iechyd. Gallwch wneud hynny drwy lenwi ffurflen ar-lein.   

Gwasanaethau Mamolaeth — Mae gan dudalen we y Gwasanaethau Mamolaeth lawer o fanylion cyswllt defnyddiol, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer darpar famau a rhieni newydd.  

Mynd Adref yn dilyn Genedigaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro — Os ydych chi newydd groesawu eich plentyn bach, gall mamau a rhieni newydd ddarganfod mwy am y dyddiau ar ôl esgor, cysgu’n ddiogel, sylwi ar arwyddion salwch mewn babanod newydd-anedig, bwydo, cymorth iechyd meddwl a llawer mwy o wybodaeth i gadw eu hunain a’u plentyn/plant bach yn ddiogel. 

Y rhaglen feirws syncytiol anadlol (RSV) ar gyfer menywod beichiog er mwyn amddiffyn babanod - Iechyd Cyhoeddus Cymru - Anogir pob mam feichiog a pherson beichiog i gael eu brechlyn RSV a all atal babanod rhag mynd yn ddifrifol wael neu fynd i'r ysbyty. I'r rhan fwyaf o oedolion a phlant, mae haint RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, i rai, yn enwedig babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn, gall RSV fod yn ddifrifol iawn a gall achosi bronciolitis a niwmonia.   

  • SilverCloud ar gyfer rhieni newydd 

Parentline - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro — Os yw'ch plentyn bach yn bump oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio Parentline i gysylltu â nyrs ysgol am gyngor a chymorth cyfrinachol trwy neges destun. Mae’r gwasanaeth ar gael i bob rhiant a gofalwr sydd â phlant rhwng 5 ac 16 oed, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu haddysgu gartref. I gysylltu â nyrs ysgol, anfonwch neges destun at 07312 263178. 

Sands | Achub bywydau babanod. Cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth.  Child Bereavement UK – Gall Sul y Mamau fod yn gyfnod anodd i’r rhai sydd wedi colli plentyn neu fabi. Mae cymorth ar gael gan amrywiol elusennau a gwasanaethau iechyd meddwl. 

Dilynwch ni