7 Ebrill 2025
Yn dilyn cyfnod hynod heriol pan fu’n rhaid i ni weithredu Polisi Dim Ymweliadau i reoli achosion o norofeirws ar draws ein hysbytai, rydym yn falch o gadarnhau bod y cyfyngiadau hyn bellach wedi’u codi.
Roedd y cyfyngiadau dros dro yn hanfodol i’n galluogi i reoli’r achosion ac atal lledaeniad yr haint a hoffem estyn ein diolch diffuant i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. O ganlyniad i’r cymorth hwn, rydym bellach mewn sefyllfa llawer gwell a gallwn ailddechrau ymweld ar draws ein hysbytai.
Mae’r norofeirws yn parhau i effeithio ar rai ardaloedd o’n hysbytai ac mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau lleol yn dal yn eu lle. Os bydd yr haint yn effeithio ar ward, bydd y ward yn cysylltu'n uniongyrchol â pherthnasau i'w diweddaru.
Hoffem ddiolch i bawb am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Ni wnaed y penderfyniad i gyfyngu ar ymweliadau yn ysgafn, ond roedd yn gam angenrheidiol i amddiffyn ein cleifion, staff ac ymwelwyr.
Wrth i gyfyngiadau ymweld godi, hoffem ailadrodd pwysigrwydd dilyn arferion hylendid dwylo da. Hoffem hefyd atgoffa ymwelwyr os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn enwedig gyda symptomau norofeirws, neu gyflyrau anadlol, i aros gartref nes eich bod wedi bod yn glir o'r symptomau am o leiaf 48 awr.
Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, gallwch eu gwirio gan ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG 111 Cymru, sydd â chyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer ystod o gyflyrau gwahanol.
Diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth, gwydnwch, a dealltwriaeth i'n helpu i gadw ein hysbytai yn ddiogel.
4 Ebrill 2025
Oherwydd effaith barhaus yr achosion o norofeirws ar sawl un o'n hysbytai, rydym yn parhau i weld cleifion sy'n datblygu norofeirws, wardiau'n cau a llai o welyau ar gael. Er bod arwyddion cynnar o welliant, nid ydym eto mewn sefyllfa i leddfu cyfyngiadau ymweld yn ddiogel, gan fod nifer o gleifion yn parhau i fod â symptomau. Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelwch a lles ein cleifion, staff ac ymwelwyr.
Mae Jason Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, yn cydnabod pa mor anodd yw'r cyfyngiadau ymweld hyn i gleifion a'u hanwyliaid. Mae'n pwysleisio nad yw'r penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ysgafn, ond ei fod yn angenrheidiol i leihau lledaeniad yr haint ac i amddiffyn cleifion a staff sy'n derbyn ac yn darparu gofal.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu’r polisi ymweld yn gynnar yr wythnos nesaf ac yn rhoi diweddariad pellach cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
28 Mawrth 2025
Mae effaith yr achosion o Norofirws yn parhau i effeithio ar nifer o wardiau gan achosi pwysau eithriadol ar y system.
O ganlyniad i’r sefyllfa heriol hon, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i barhau â Pholisi Dim Ymweld a chau’r Bwrdd Iechyd i bob ymweliad cyffredinol i reoli’r achos hwn. Unwaith eto, nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn, ond yn un sy'n hanfodol i amddiffyn ein cleifion, staff ac ymwelwyr a lleihau lledaeniad yr haint.
Ystyrir eithriadau, yn enwedig ar gyfer y cleifion hynny sy'n ddifrifol wael, sy'n derbyn gofal diwedd oes, partneriaid geni ac Ysbyty Plant Cymru. Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau hyn yr wythnos nesaf os bydd y sefyllfa wedi gwella.
Bydd disgwyl i ymwelwyr sy’n bodloni ein meini prawf ymweld gynnal arferion hylendid da drwy olchi eu dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr a chadw at ragofalon Atal a Rheoli Heintiau.
Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag ymweliadau cyffredinol â chleifion ac nid yw'n effeithio ar apwyntiadau cleifion allanol. Os oes gan gleifion apwyntiadau gyda ni, bydd y rhain yn cael eu cynnal o hyd, oni bai bod yr adran yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i egluro fel arall.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl, arhoswch gartref nes eich bod wedi bod yn glir o'r symptomau am o leiaf 48 awr. Gellir rheoli'r rhan fwyaf o achosion o norofeirws gartref drwy orffwys, yfed hylifau a hunanofal ac mae'r symptomau fel arfer yn gwella o fewn 2 i 3 diwrnod.
Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, gallwch eu gwirio gan ddefnyddio gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111 Cymru, sydd â chyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer ystod o gyflyrau gwahanol. Os credwch fod angen cyngor gofal iechyd brys arnoch neu i gael mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau, ffoniwch 111 yn gyntaf a siaradwch â chlinigydd. Cofiwch, dim ond ar gyfer argyfyngau y dylid defnyddio ein Huned Achosion Brys.
Diolch am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad wrth helpu i gadw ein cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel.