26 Mawrth 2025
Yn anffodus, mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn heriol ar draws y sefydliad a bydd y polisi dim ymweld yn parhau yn ei le. Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau tuag at ddiwedd yr wythnos os bydd y sefyllfa'n gwella.
21 Mawrth 2025
Dros yr wythnos diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion o norofeirws ar draws ein safleoedd ysbytai. Mae effaith yr achosion o norofeirws wedi effeithio ar nifer o wardiau ac wedi arwain at gau cyfres o welyau sy'n achosi pwysau eithriadol ar y system.
O ganlyniad i’r sefyllfa heriol hon, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i weithredu Polisi Dim Ymweld a chau’r Bwrdd Iechyd i bob ymweliad cyffredinol i reoli’r achosion hyn. Nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn, ond yn un sy'n hanfodol i amddiffyn ein cleifion, staff ac ymwelwyr a lleihau lledaeniad yr haint.
Ystyrir eithriadau, yn enwedig ar gyfer y cleifion hynny sy'n ddifrifol wael, sy'n derbyn gofal diwedd oes, partneriaid geni ac Ysbyty Plant Cymru. Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau hyn yr wythnos nesaf os bydd y sefyllfa wedi gwella.
Bydd disgwyl i ymwelwyr sy’n bodloni ein meini prawf ymweld gynnal arferion hylendid da drwy olchi eu dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr a chadw at ragofalon Atal a Rheoli Heintiau.
Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag ymweliadau cyffredinol â chleifion ac nid yw'n effeithio ar apwyntiadau cleifion allanol. Os oes gan gleifion apwyntiadau gyda ni, bydd y rhain yn cael eu cynnal o hyd, oni bai bod yr adran yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i egluro fel arall.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl, arhoswch gartref nes eich bod wedi bod yn glir o'r symptomau am o leiaf 48 awr. Gellir rheoli'r rhan fwyaf o achosion o norofeirws gartref drwy orffwys, yfed hylifau a hunanofal ac mae'r symptomau fel arfer yn gwella o fewn 2 i 3 diwrnod.
Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, gallwch eu gwirio gan ddefnyddio gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111 Cymru, sydd â chyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer ystod o gyflyrau gwahanol. Os credwch fod angen cyngor gofal iechyd brys arnoch neu i gael mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau, ffoniwch 111 yn gyntaf a siaradwch â chlinigydd. Cofiwch, dim ond ar gyfer argyfyngau y dylid defnyddio ein Huned Achosion Brys.
Diolch am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad wrth helpu i gadw ein cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel.