Mae cyfyngiadau parcio ar y safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi newid i roi mwy o hyblygrwydd i gleifion ac ymwelwyr y tu allan i’r oriau brig.
O fis Ebrill 2023, gall cleifion ac ymwelwyr sy’n parcio yn Ysbyty Athrofaol Cymru y tu allan i’r oriau brig ddefnyddio unrhyw faes parcio dynodedig, ac eithrio parthau gollwng.
Rhaid i gleifion ac ymwelwyr barhau i ddefnyddio mannau parcio dynodedig i gleifion ac ymwelwyr rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r meysydd parcio hyn wedi’u nodi’n glir gan yr arwyddion glas.
Ymhellach, ni fydd cleifion ac ymwelwyr bellach yn cael eu cyfyngu i 4 awr o barcio am ddim y tu allan i’r oriau brig (8am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
Mae ein meysydd parcio i gleifion ac ymwelwyr yn parhau i ganiatáu 4 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Lle bo angen, gall cleifion ac ymwelwyr ymestyn hyd eu harhosiad am 2 awr ychwanegol trwy nodi gwybodaeth cofrestru eu cerbyd yn y peiriannau parcio a ddarperir.
Bydd camau gorfodi yn cael eu cadw ar gyfer mannau parcio Bathodyn Glas a rheoli traffig.
Mae’r newidiadau hyn yn cysoni’r cyfyngiadau parcio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ag Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty’r Barri.
Mae rhagor o wybodaeth am barcio ar ein safleoedd ysbyty ar gael yma.
Mae’r newidiadau hyn hefyd yn caniatáu i gydweithwyr BIP Caerdydd a’r Fro ddefnyddio unrhyw faes parcio dynodedig yn ystod oriau llai prysur. Nodwch, yn ystod oriau llai prysur, bod yn rhaid i staff gael trwydded i barcio mewn meysydd parcio staff.