Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres newydd o BBC Saving Lives in Cardiff yn dod yn fuan: Cwrdd â Sêr Llawfeddygaeth

09 Ebrill 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o fod yn ôl ar sgriniau’r BBC ar gyfer ail gyfres o Saving Lives in Cardiff. Bydd y bennod gyntaf, sydd i'w darlledu ar 9 Ebrill, yn arddangos y gwaith anhygoel a wneir gan lawfeddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Dywedodd Jason Roberts, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol: “Rwy’n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael cyfle arall i arddangos y gwaith anhygoel y mae ein cydweithwyr yn ei wneud bob dydd i drin ein cleifion, yn lleol a ledled Cymru. Mae’r ail gyfres o Saving Lives in Cardiff yn parhau i ddangos y cymhlethdodau sydd wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn, a’n hymrwymiad i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Rydym yn gwerthfawrogi nad oes unrhyw lawdriniaeth heb ei risg ac mae'r gyfres hon yn dangos cydweithwyr yn ymddwyn gyda phroffesiynoldeb, arbenigedd a thosturi, gan ddangos yn glir werthoedd y Bwrdd Iechyd."

Wedi’i ffilmio yn ystod haf 2024, mae’r bennod gyntaf yn gweld y BBC yn dilyn y Llawfeddyg Cardiothorasig Indu Deglurkar, y Niwrolawfeddyg Ravindra Nannapaneni, a’r Otorhinolaryngolegydd (y Glust, Trwyn a Gwddf) Stuart Quine yn newid bywydau eu cleifion trwy lawdriniaeth.

Mr Stuart Quine and Mr Sandeep Berry

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae’r claf, Terry yn cael triniaeth am diwmor malaen ymosodol yn ei drwyn nad yw wedi ymateb i chemo na radiotherapi.

Mae'r llawdriniaeth yn un gymhleth; mae'r tiwmor yn ddwfn ym mhen Terry a dim ond ychydig o weithiau y mae'r llawdriniaeth wedi'i chyflawni yn y DU.

Mae amser yn brin i Terry, ac mae angen tynnu'r tiwmor cyn gynted â phosibl, trwy lawdriniaeth robotig arbenigol.

Meddai Stuart: “Cyflwynodd Terry her anodd iawn, ond roedden ni’n gwybod y byddai defnyddio llawdriniaeth robotig yn rhoi’r cyfle gorau i mi gael gwared ar y tiwmor yn llwyddiannus, ac yn bwysicach fyth, y byddai Terry’n cael ansawdd bywyd da yn dilyn triniaeth.”

“Mae’n gysur gwybod bod y llawdriniaeth wedi rhoi cyfle i Terry dreulio mwy o amser gyda’i deulu yn y misoedd dilynol, yn teithio i lefydd gyda’i gilydd ac yn gwneud pethau maen nhw’n eu mwynhau. Roedd yn werth y straen o gynnal llawdriniaeth risg uchel oherwydd y gobaith a roddodd iddo ef a’i deulu.”

Aeth yn ei flaen: “Y rhan drist o fywyd yw y bydd pethau gwael yn digwydd i bob un ohonom a’r hyn sy’n bwysig iawn yw’r ffordd rydym yn delio â'r problemau hynny. I mi, mae Terry wedi bod yn fodel rôl yn y ffordd honno i raddau helaeth. Wynebodd Terry bob cam o’i daith gyda dewrder ac urddas a dysgodd wers werthfawr i mi am sut i ymateb i heriau bywyd.”

Yn yr adran niwrolawdriniaeth, mae Ravi Nannapaneni yn trin Courtney, merch ifanc ag Anffurfiad Chiari - cyflwr sy'n achosi i'w hymennydd fod yn rhy fawr i'w phenglog a phwyso ar fadruddyn yr asgwrn cefn.

Cymhlethir ei chyflwr ymhellach gan sglerosis ymledol, cyfuniad na welodd Mr Nannapaneni erioed mewn claf. Mae'r cyfnod i roi llawdriniaeth yn fach; rhaid i Ravi weithio o fewn amser sydd wedi’i gyfyngu gan feddyginiaeth atal imiwnedd Courtney.

Mr Nannapaneni yw'r niwrolawfeddyg uchaf yn y Bwrdd Iechyd, ar ôl cael ei benodi gyntaf yn 2004 ac mae wedi rhoi llawdriniaeth i blant ac oedolion. Mae’r tîm niwrolawdriniaeth yn gwasanaethu 2.5 miliwn o bobl ledled Cymru.

Wrth siarad ar y bennod, dywedodd Ravi: “Rwyf wrth fy modd pan fydd claf yn mynd adref ac yn cael canlyniad da. Mewn niwrolawdriniaeth, mae popeth yn ddiddorol; does gennych chi ddim syniad beth sy'n mynd i ddod drwy'r drws. Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld popeth ac yna fe welwch rywbeth newydd.

Rwy'n meddwl bod yr ymennydd yn ddirgelwch a does neb yn deall sut mae'n gweithio mewn gwirionedd. Os oes gennym ni eneidiau, mae’n rhaid i’r enaid fod yn yr ymennydd – gellir disodli popeth arall.”

Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, mae’r Llawfeddyg Cardiaidd Ymgynghorol Indu Deglurkar yn trin Tyrone, cyn-bencampwr y byd mewn crefftau ymladd Thai. 

Mae gan Tyrone falf aortig sy'n gollwng yn sylweddol ac anewrysm, sef chwydd annormal yn yr aorta. Gohiriwyd ei lawdriniaeth yn flaenorol oherwydd cymhlethdodau gyda niwmonia ac mae angen llawdriniaeth agored helaeth ar y galon er mwyn gosod falf newydd a thrin anewrysm yr aorta.   

Mae'r cyflwr yn ei gwneud yn ofynnol i Tyrone newid ei ffordd o fyw yn sylweddol - fel arall mae mewn perygl o achosi difrod pellach.

Mae Indu wedi bod yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol ers 17 mlynedd ac mae’n perfformio ystod eang o lawdriniaethau cardiaidd hynod gymhleth i oedolion. Mae'r tîm cardiothorasig sy'n gwasanaethu De-ddwyrain Cymru yn cynnwys 5 llawfeddyg cardiaidd sy'n oedolion a 4 llawfeddyg thorasig ac mae'n cynnal tua 700 o lawdriniaethau ar y galon a 550 o lawdriniaethau thorasig bob blwyddyn.

"Y peth gorau am y swydd yw'r gallu i achub neu newid bywyd rhywun", meddai Indu. “Mae cynnal llawdriniaeth ar gleifion na allent o bosib weld yr haul yn codi, a’u hanfon yn ôl at eu teulu yn rhoi boddhad mawr. Rwy’n cael llythyrau gan gleifion ddeng mlynedd ar ôl eu llawdriniaethau yn diolch i mi ac mae hyn yn wirioneddol yn rhoi hwb i ni.”

Darlledir BBC Saving Lives ddydd Mercher 9 Ebrill am 9pm ar BBC One Wales a BBC 2 National. Wnaethoch chi wylio'r gyfres gyntaf? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer. 

Dilynwch ni