Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres newydd BBC Two a BBC Cymru yn mynd y tu mewn I ysbytai GIG Caerdydd

6 Hydref 2023

Gan wneuthurwyr y gyfres ddogfen sydd wedi ennill nifer o wobrau, Hospital a Worlds Collide: The Manchester Bombing, mae Label1 (label Fremantle) yn falch iawn o gyhoeddi bod BBC Two a BBC Cymru wedi comisiynu cyfres chwe rhan newydd o 'Saving Lives', gyda ffilmio'n mynd rhagddo yr wythnos hon yn Ysbytai Athrofaol Caerdydd a'r Fro.

Yn dilyn y gyfres sydd wedi cael clod mawr gan feirniaid, Saving Lives in Leeds yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Addysgu Leeds, bydd y gyfres newydd yn dilyn y penderfyniadau dyddiol a wneir gan glinigwyr, wrth iddynt geisio trawsnewid bywydau eu cleifion yn Ne Cymru, yn erbyn cefndir o restrau aros sy’n cynyddu’n barhaus.

Yn cynnwys ffilmio arsylwadol a chyfweliadau manwl, bydd y rhaglenni yn datgelu graddfa lawn llwyth achosion clinigwyr,  gan adrodd straeon cymhellol ac emosiynol y cleifion sydd wrth galon yr ysbyty mwyaf yng Nghymru. Mae disgwyl i'r gyfres gael ei dangos ar BBC Two a BBC Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae'r gyfres yn archwilio'r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i glinigwyr eu gwneud bob dydd wrth benderfynu pwy sy'n cael ei drin nesaf, a'r effaith go iawn y mae hyn yn ei chael ar fywydau cleifion a'u teuluoedd - a'r staff sy'n gofalu amdanynt. Yn gefndir i’r cyfan mae’r rhestr aros genedlaethol hiraf am ofal clinigol arbenigol neu lawdriniaeth yn hanes y GIG.

Dywedodd Clare Sillery, Pennaeth Comisiynu, Rhaglenni Dogfen: “Mae cynrychioli bywydau ein cynulleidfa ledled y DU yn hynod bwysig i ni ac rwy'n falch iawn bod Saving Lives yn ôl am gyfres arall. Gyda mynediad unigryw i'r ysbyty mwyaf yng Nghymru, mae'r gyfres hon yn archwilio materion gwerthfawr ac amserol am yr heriau sy'n wynebu'r GIG mewn ffordd hygyrch.”

Dywedodd Nick Andrews, Uwch Bennaeth Comisiynu, BBC Cymru: “Mae'n wych bod y gyfres newydd o Saving Lives wedi ei ffilmio yma yng Nghymru. Cawn y fraint o gael gipolwg pwysig ar fyd rhyfeddol sydd heb amheuaeth wedi cyffwrdd â'n holl fywydau. Yn ychwanegol at y lleoliad cymhellol, bydd y penderfyniadau sy'n newid bywyd y mae staff yn gorfod eu gwneud bob dydd yn cael effaith barhaol arnoch chi, fi a chynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y DU. “

Dywedodd Lorraine Chalker-Phillips, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Label1: “Mae cael mynediad i unrhyw sefydliad bob amser yn anrhydedd ac yn rhywbeth nad ydym byth yn ei gymryd yn ganiataol. Mae Label1 yn falch iawn o fod yn gwneud y gyfres nesaf o Saving Lives gyda'n tîm yng Nghymru wrth i ni barhau i ddod â straeon pwysig a fydd yn cynhesu’r galon i'n cynulleidfaoedd, i ddangos beth sy'n digwydd y tu mewn i'n hysbytai, a'r penderfyniadau y mae'n rhaid i staff eu gwneud o ddydd i ddydd ynghylch pwy i'w drin nesaf”.

Dywedodd Jackie Waldock, Cynhyrchydd Gweithredol Saving Lives: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno i’n gwylwyr y gyfres feddygol hon a fydd yn agoriad llygad. Wedi'i ffilmio ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyfan, mae'n rhoi cipolwg unigryw ar yr amrywiaeth o waith sy'n cael ei wneud ar draws eu hadrannau ar adeg pan mae penderfyniadau ynghylch sut i fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol yn bwysicach nag erioed.”

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy'n hynod falch o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gefnogi cleifion nid yn unig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ond ledled Cymru gyfan. Mae cydweithwyr yn gwneud gwaith anodd bob dydd ac mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fwy heriol nag erioed, fodd bynnag bydd y gyfres yn rhoi cyfle i gleifion a'u hanwyliaid weld rhai o'r penderfyniadau anodd rydym yn eu gwneud yn ddyddiol yn ogystal â gwaith clinigol ac arbenigedd gwych y timau amlddisgyblaethol. Mae iechyd bob amser yn datblygu a bydd gwylwyr yn gweld rhai o'r dulliau arloesi clinigol gorau ond hefyd y gofal tosturiol rydyn ni'n ei roi i gleifion, sy’n aml yn gwbl agored i niwed ac ar eu hisaf.”

Comisiynwyd cyfres dau o 'Saving Lives... ' gan Clare Sillery, Pennaeth Comisiynu, Rhaglenni Dogfen a Nick Andrews, Uwch Bennaeth Comisiynu, BBC Cymru. Y Golygydd Comisiynu ar gyfer BBC Factual yw Anna Dickeson a’r Golygydd Comisiynu ar gyfer BBC Cymru yw Sian Harris. Y Cynhyrchwyr Gweithredol yw Jackie Waldock a Gaynor Davies ar gyfer Label1 Television.

Dilynwch ni