Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno eTriage i'r Uned Achosion Brys

Yr arwyddion uwchben y ciosgau eFrysbynnu yn yr Uned Frys

05/06/24

Bellach mae gan yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru giosgau eTriage wrth ei phrif fynedfa i wella profiad y claf, cynyddu effeithlonrwydd ac i gefnogi’r tîm brysbennu clinigol i flaenoriaethu’r cleifion hynny sydd â’r angen mwyaf.

Bydd sgriniau digidol ar gael i gleifion wrth gyrraedd yr uned er mwyn cofrestru ac ateb rhai cwestiynau sylfaenol am eu cyflwr.

Mae’r datrysiad digidol hwn i frysbennu wedi’i gynllunio i ddarparu gwelededd clinigol cynnar i’r cleifion yn yr Uned Achosion Brys, gan gefnogi clinigwyr i flaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol.

Gofynnir i gleifion sy’n mynychu’r adran lenwi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol wrth gyrraedd i gynorthwyo gyda’r broses brysbennu. Bydd y cwestiynau hyn yn gofyn am wybodaeth adnabod, a manylion am eu cyflwr, gan olygu nad oes angen i glaf gofrestru gyda derbynnydd. Unwaith y byddant wedi cofrestru, bydd cleifion yn cael eu galw gan y tîm brysbennu i barhau â’r asesiad cychwynnol hwn.

Bydd y broses yn cymryd tua phum munud ar gyfartaledd, a’i nod yw lleihau’r amser i frysbennu yn yr Uned Achosion Brys, a chaniatáu i anghenion gofal cleifion gael eu nodi yn gynt.

I unrhyw gleifion sy’n cael anhawster yn defnyddio’r ciosgau newydd, mae cydweithwyr a thimau derbynfa yn dal ar gael i’w cefnogi.

Mae’r fideo isod wedi’i gynllunio i helpu cleifion i ddeall yr hyn y gallant ei ddisgwyl wrth gyrraedd yr Uned Achosion Brys.


Mae’r Uned Achosion Brys yn parhau i brofi pwysau sylweddol a pharhaus, a all arwain at arosiadau hir i’r cleifion hynny sydd angen gofal ar lai o frys nag eraill. Mae’r system eTriage wedi’i chynllunio i wella profiad y claf yn yr adran.

Byddem yn annog y cyhoedd i ddod i’n Huned Achosion Brys mewn argyfwng yn unig. Os yw’r cyflwr yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, parhewch i ffonio 111 yn gyntaf cyn mynychu. Dyma sut y gall cleifion gael mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau a’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Barri.

Fel arall, gallwch ymweld â gwefan GIG 111 Cymru i wirio’ch symptomau a chael cyngor ac arweiniad ar eich anghenion gofal iechyd.

https://111.wales.nhs.uk/?locale=en&term=A

Gallai eich tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned gefnogi hefyd. Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf.

I ddod o hyd i’ch gwasanaeth Gofal Sylfaenol agosaf, ewch i https://cavuhb.nhs.wales/our-services/primary-care-services1

 

Dilynwch ni