Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyhoeddi dyddiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) eleni ar 11 Medi am 10am.
Ymunwch â Chadeirydd y Bwrdd Iechyd Charles Janczewski, y Prif Weithredwr Suzanne Rankin a chydweithwyr o’r Bwrdd Gweithredol wrth iddynt ystyried perfformiad a gweithgarwch dros y 12 mis blaenorol; myfyrio ar yr heriau, cyflawniadau a’n sefyllfa o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol ein strategaeth 10 mlynedd,‘Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol’sy’n nodi gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau a wasanaethwn erbyn 2035.
Fel bob amser, bydd yr AGM yn sesiwn ryngweithiol ac felly anogir cwestiynau gan gydweithwyr a'r cyhoedd cyn y cyfarfod.
I gyflwyno eich cwestiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Testun e-bost: Cwestiwn AGM
Eich cwestiwn chi: …………………………………………?
Anfonwch at:corporate.meetingcav@wales.nhs.uk
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau amser a threfn redeg y cyfarfod, ni allwn ymateb i gwestiynau a bostiwyd ar y diwrnod.
Rydym yn gobeithio gweld cymaint ohonoch â phosibl.
I fynychu'r digwyddiad ar-lein, mae’r ddolen ymuno isod (ar gael ar y diwrnod).
ID y cyfarfod: 337 887 240 673
Cod mynediad:mvwFxW