Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithwyr y Bwrdd Iechyd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru

28 Tachwedd

Mae cydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau eithriadol at ofal cleifion a datblygu gwasanaethau yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru 2025. 

Bob blwyddyn, nod y gwobrau yw rhannu enghreifftiau o waith effeithiol dan arweiniad gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru. Mae’r gwobrau’n canolbwyntio ar brosiectau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n drosglwyddadwy ac yn dangos arweinyddiaeth a chreadigrwydd yn eu maes. 

Llongyfarchiadau i bob un a gafodd eu henwebu ac i enillwyr gwobrau 2025, yn enwedig y cydweithwyr canlynol o Gaerdydd a’r Fro: 

 
 
 
 

Gwobr am ffyrdd newydd o weithio 

Y rownd derfynol 

Cafodd Esther Goodhew, Uwch Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Katie Earing ac Anna Kissick, Uwch Ddarlithwyr a Therapyddion Iaith a Lleferydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Vicky Guise, Therapydd Cerddoriaeth Niwrolegol, Chroma, eu henwebu ar gyfer y fenter Creative Communicators. 

Enwebwyd y cydweithrediad grŵp rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chroma am ei waith yn grymuso unigolion sy’n byw â namau cyfathrebu sy’n deillio o gyflyrau niwrolegol, trwy gefnogi eu cyfathrebu a’u lles cyffredinol. 

 

Llongyfarchiadau mawr i bob tîm sy’n rhan o’r prosiectau hyn, y mae eu hymroddiad yn parhau i wella’r gofal y gallwn ei ddarparu ledled Caerdydd a’r Fro, a thu hwnt. 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwobrau ar gael yma: Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru - Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd  

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni