1 Medi 2023
Mae Ysbyty’r Barri wedi bod yn gartref i unig Ganolfan Brechu Torfol (MVC) Bro Morgannwg ers 22 Ebrill, 2023. Er bod lleoliad y ganolfan yn gymharol newydd, nid yw aelodau’r tîm y tu ôl i’r llenni yn newydd o bell ffordd.
Mae’r tîm, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd clinigol gwahanol, wedi rhoi dros 7,200 o frechiadau ar y safle hyd yma yn ystod ymgyrch dos atgyfnerthu’r Gwanwyn COVID-19 yn unig.
Ond mae’r tîm yn gwneud llawer mwy na dim ond amddiffyn pobl rhag feirysau cas. Mae’r wynebau cyfeillgar hyn yn aml yn mynd allan o’u ffordd i helpu cleifion sy’n sôn am broblemau iechyd eraill, gan eu cyfeirio at wasanaethau priodol y GIG a chynnig cyngor arbenigol lle y gallant.
Er bod y galw ar y Ganolfan Brechu Torfol wedi tawelu rhywfaint dros yr wythnosau diwethaf, bydd yn cynyddu’n fuan pan fydd y broses o gyflwyno’r brechiad ffliw a COVID-19 yn dechrau eto o ddifrif yr hydref a’r gaeaf hwn. Mae’n hysbys iawn y gall y ddau gyflwr achosi cynnydd tymhorol mewn derbyniadau i’r ysbyty - a marwolaethau - ymhlith pobl hŷn a phobl agored i niwed yn benodol.
Bydd pob oedolyn dros 65 oed, pobl mewn grwpiau risg glinigol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ymhlith y rhai sy’n gymwys i gael y brechiadau ffliw a COVID-19 y tro hwn, a bydd llythyrau apwyntiad yn dechrau cael eu dosbarthu ym mis Medi. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno’r brechiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gael isod.
Mae llawer o gydweithwyr sy’n gweithio yng Nghanolfan Brechu Torfol y Barri wedi gweld â’u llygaid eu hunain y dinistr y gall COVID-19 a’r ffliw ei achosi, o’u hamser ar wardiau gofal dwys a wardiau meddygol yn ystod anterth y pandemig, yn ogystal ag yn ystod gaeafau blaenorol pan oedd y ffliw ar ei fwyaf cyffredin.
Mae Michelle Roderick wedi treulio dros ddau ddegawd yn gweithio i’r GIG yng Nghymru, gan ddechrau ei gyrfa ar ward feddygol C7 yn Ysbyty Athrofaol Cymru cyn treulio 14 mlynedd yn yr uned mamolaeth. Aeth ymlaen wedyn i gymhwyso fel fferyllydd, gan aros yn y rôl am bum mlynedd, cyn dewis ymgymryd â rôl brechwr band 3 pan oedd COVID-19 yn lledaenu trwy’r wlad.
“Pan ddechreuais yn gyntaf, roedd yr ymdrech frechu yn enfawr. Roedd gennym dorfeydd o dros 900 o bobl yn dod i mewn bob dydd, roedd nifer y bobl oedd yn cael eu brechu yn uchel iawn, ac mewn gwirionedd roedd yn gyfnod eithaf emosiynol,” meddai.
“Roedd rhai pobl heb fod allan o’u cartrefi ers misoedd, felly roedd yn rhaid i ni roi llawer o sicrwydd iddynt a rhoi gwybod iddynt am yr hyn oedd yn digwydd. Doedd neb yn gwybod beth oedd o’n blaenau, ond fe wnaethon ni dreulio amser yn eistedd gyda phobl, yn tawelu eu meddwl ac yn eu sicrhau eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn i ddod yma.”
Pwysleisiodd Michelle fod rôl brechwr yn gymaint mwy na rhoi brechiadau yn unig. “Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod pam eu bod yn cael y brechiad a chymryd diddordeb ynddynt yn gyffredinol,” ychwanegodd.
“Mae pobl yn aml yn dweud popeth wrthon ni, yn enwedig pobl hŷn gan fod llawer ohonynt yn byw ar eu pen eu hunain. Maen nhw’n dweud ei bod hi wedi bod yn hyfryd siarad â ni.”
Cyn cyflwyno’r brechiadau ffliw a COVID-19 yn yr hydref/gaeaf, rhybuddiodd Michelle na ddylai pobl adael i flinder brechu gael y gorau ohonynt.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael y brechiad i ddod i mewn i amddiffyn eu hunain ac eraill o’u cwmpas,” meddai. “Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yn rhan o’r tîm yma – rwy’n mynd adref bob dydd yn meddwl fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth.
“Gallwn weld y gwahaniaeth cadarnhaol mae’r brechiad wedi’i gael o ran derbyniadau i’r ysbyty, ond dyw COVID dal heb ddiflannu.”
Mae Belinda “Bee” Lawes, goruchwyliwr yn y ganolfan frechu, wedi bod yn dyst i’r difrod ofnadwy y gall COVID-19 ei achosi. Yn ei rôl flaenorol yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gwelodd gleifion yn mynd yn sâl iawn gyda’r feirws ac yn gorfod brwydro drwyddo ar eu pen eu hunain.
“Roedd hi’n gyfnod anodd iawn,” cyfaddefodd. “Roedd pawb wedi blino’n lân ac mae’n rhaid bod teuluoedd yn cael amser caled iawn gan nad oedden nhw’n gallu dod i mewn i weld eu hanwyliaid.”
Pan drosglwyddodd i’w rôl frechu bresennol ddwy flynedd yn ôl, dywedodd ei bod yn hawdd iddi bwysleisio pwysigrwydd cael y brechiad COVID-19. “Ro’n i’n gallu gweld pa mor sâl oedd pobl yn mynd ar y pryd a’r effaith roedd yn ei gael ar bobl o’u cwmpas.”
Dywedodd Bee fod brechwyr yn hapus i gyfeirio pobl at wasanaethau gwahanol y GIG pe bai unrhyw faterion iechyd yn codi wrth sgwrsio yn ystod eu hapwyntiad brechiad COVID neu’r ffliw. “Efallai y byddan nhw’n dweud wrthym fod rhywbeth yn digwydd [gyda’u hiechyd] felly byddwn yn eu cynghori i fynd at eu meddyg teulu, neu efallai at Age Connects os nad yw’n gysylltiedig ag iechyd. Rydyn ni’n ceisio helpu pobl mewn ffyrdd gwahanol.”
Un o’r manteision yn sgil y pandemig, ychwanegodd Bee, oedd ehangder enfawr y bobl a ddaeth o wahanol gefndiroedd clinigol i imiwneiddio pobl. “Mae’n dîm anhygoel sy’n newid yn barhaus. Rydym wedi gweld meddygon ymgynghorol, meddygon teulu, bydwragedd, nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd [i gyd yn dod yn frechwyr], ac mae’r wybodaeth yr ydym wedi gallu ei rhannu i helpu pobl i gael mynediad at wahanol wasanaethau wedi bod yn rhyfeddol. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael staff diogelwch, ceidwaid tŷ a staff gweinyddol anhygoel.”
Gweithiwr arall sydd wedi profi gwir effaith COVID-19 a’r ffliw yw Rachel Taylor, goruchwyliwr yng Nghanolfan Brechu Torfol y Barri, a weithiodd yn ward anadlol B7 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ystod camau cynnar y pandemig.
“Roedd pawb yn hynod sâl yn ystod y don gyntaf honno [o COVID]. Roedden ni’n gofalu am gleifion oedd yn ddigon sâl i fod angen masg C-Pap,” meddai.
“Gwelsom lefelau ocsigen ar y monitorau nad oeddem erioed wedi’u gweld o’r blaen gydag afiechydon anadlol eraill. Roedd yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb.”
Ond unwaith y dechreuodd y broses o gyflwyno’r brechiad COVID-19 ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd Rachel fod derbyniadau i’r ysbyty wedi gostwng yn “ddramatig”. “Gyda phob ymgyrch atgyfnerthu a welsom, o fewn wythnosau, roedd nifer y derbyniadau yn gostwng,” meddai.
Fel ei chydweithwyr, ychwanegodd Rachel fod y tîm wir yn cyd-dynnu, yn anfwriadol yn aml, i helpu pobl sy’n dod i mewn ar gyfer eu dos atgyfnerthu. “Tra eu bod nhw yma, mae yna lawer o bobl yn siarad â ni am broblemau iechyd eraill ac rydyn ni’n eu hannog i ofyn am gymorth.
“Mae wedi bod yn wych bod yn Ysbyty’r Barri. Rydyn ni wedi bod yma ers ychydig fisoedd bellach ac mae pawb wedi bod yn hynod groesawgar. Mae pobl wedi bod yn hapus iawn i alw heibio, mae pawb yn gwybod ble i ddod o hyd i ni yma yn y Fro, ac rydyn ni wedi ymgartrefu’n dda.”
Fe wnaeth Rachel bwysleisio bod y gaeaf yn “gyfnod anodd iawn” i ysbytai ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, a dywedodd y bydd amddiffyn eich hun gyda brechiadau COVID-19 a’r ffliw nid yn unig yn helpu gweithwyr y Bwrdd Iechyd, ond eu cymunedau hefyd.
“Mae’n frechiad sy’n gyflym ac yn hawdd iawn i ddod i’w gael. Ni fydd sgil-effeithiau yn para’n hir, os ceir rhai o gwbl, a byddant yn ysgafn,” dywedodd.
Dyma fideo o'r tri brechwr a pham maen nhw'n credu ei bod hi'n bwysig cael y boosters Covid-19 a'r ffliw
Mae’r bobl a fydd yn gymwys i gael brechiad COVID-19 yr hydref a’r gaeaf hwn yn cynnwys:
Oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn
Preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd Imiwneiddio
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
Pobl rhwng 12 a 64 oed sy’n gysylltiadau cartref i bobl sy’n imiwnoataliedig (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)
Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)
Pobl ddigartref
Mae pobl a fydd yn gymwys i gael y brechiad rhag y ffliw yn cynnwys:
Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2023
Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)
Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)
Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol
Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)
Oedolion sydd yng ngharchardai Cymru
Menywod beichiog
Gofalwyr
Pobl ag anabledd dysgu
Staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid
Staff sy’n darparu gofal cartref
Staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen y GIG/Gofal Sylfaenol
Gweithwyr gofal iechyd (gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd) sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion
Pobl ddigartref
Rhoddir y brechiad ffliw ar ffurf chwistrell trwyn i blant fel arfer, gan y dywedir ei fod yn cynnig yr amddiffyniad gorau. Fodd bynnag, gellir cynnig pigiad brechiad ffliw iddynt os nad yw’r brechiad chwistrell trwyn yn addas ar eu cyfer. Mae brechiadau ffliw drwy bigiad hefyd yn ddiogel ac yn effeithiol.
Bydd y ddau frechiad yn cael eu rhoi ar yr un pryd lle bynnag y bo modd, a bydd llythyrau apwyntiad yn dechrau cyrraedd cartrefi ym mis Medi. Tra bydd y rhan fwyaf o bobl Bro Morgannwg yn mynychu MVC y Barri, yng Nghaerdydd bydd MVC newydd yn Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn ac Ysbyty Rookwood yn Llandaf. Bydd rhagor o fanylion am y rhain i ddilyn.
Yn y cyfamser, i weithwyr BIP Caerdydd a’r Fro, bydd pythefnos o sesiynau galw heibio. Mae'r dyddiadau wedi'u cyhoeddi i'r staff.
Ni ddylai staff sy’n imiwnoataliedig fynychu’r sesiynau hyn i gael eu brechiad COVID-19 a dylent aros am wahoddiad i gael eu brechu.
Ar ôl y sesiynau galw heibio hyn, bydd y Bwrdd Iechyd yn dychwelyd i fodel apwyntiadau Hyrwyddwyr Brechu a Chanolfannau Brechu Torfol.
Bydd rhagor o fanylion am y rhain i ddilyn.