Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o weithio gyda Chaplaniaid aml-ffydd i ddarparu gofal ysbrydol i gleifion, y rhai sy'n agos atynt a chymuned ehangach yr ysbyty.
Mae ein Hadran Gaplaniaeth yn cynnwys arweinwyr o sawl gwahanol ffydd ac enwad sy'n darparu gofal holistaidd sy'n cydnabod ac yn ymateb i anghenion yr ysbryd dynol.
Mae Caplaniaid yn gweithio ar draws holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Ganser Felindre.
Er bod y gwasanaeth yn gweithio mewn cyd-destun aml-ffydd, nid yw'n ymwneud â chrefydd yn unig. Weithiau bydd hyd yn oed angen clust i wrando ar bobl sydd heb ffydd, a bydd Caplaniaid yn rhoi o’u hamser i ymweld.
Dywedodd y Parchedig Jason Tugwell, Rheolwr Gwasanaethau Caplaniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Rydym yn cynnig gofal ysbrydol i gleifion, teuluoedd a staff crefyddol ac anghrefyddol ac rydym yma i helpu pawb yn ystod cyfnodau anodd.
“Efallai y bydd rhai pobl yn ein gwahodd i weddïo gyda nhw tra bod eraill ond eisiau’r cysur o gael sgwrs.”
Ychwanegodd y Parchedig Sangkhuma Hmar: “Waeth beth yw’r gwahanol draddodiadau crefyddol, ysbrydol a moesegol, rwy'n credu ym mhwysigrwydd cydberthnasau dynol. Mae angen i ni ysbrydoli pobl anghrefyddol a chrefyddol i estyn allan at ei gilydd oherwydd rydym angen ein gilydd.”
Y Parchedig Jason Tugwell (Rheolwr Gwasanaeth Caplaniaeth — Cristion)Rwy'n weinidog wedi’i ordeinio gyda'r mudiad Pentecostaidd Elim ac mae gen i fwy na 28 mlynedd o brofiad o arweinyddiaeth fugeiliol ac eglwysig lleol. Deuthum yn Rheolwr Gwasanaethau Caplaniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2018 ar ôl gweithio’n flaenorol fel Dirprwy Gaplan Arweiniol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Rwyf hefyd yn bugeilio ochr yn ochr â’m gwraig yn Eglwys Elim yng Ngogledd Caerdydd. |
|
Y Tad Peter Davies (Catholig)Rwy'n offeiriad Catholig Rufeinig ac yn wreiddiol o Orllewin Cymru. Yn y gorffennol, rwyf wedi gweithio fel nyrs seiciatrig ac wedi treulio pum mlynedd ar brosiect iechyd meddwl yn Asia Ganol a dwy flynedd yn is-gyfandir India. Roeddwn gynt yn offeiriad Anglicanaidd ac rwy'n briod â phlant. |
|
Y Tad David Pritchard (Catholig)Ymunais â Thîm y Gaplaniaeth fel Caplan rhan amser yn 2018. Rwy'n offeiriad Catholig Rufeinig o Ordinariad Personol Ein Boneddiges Walsingham, sy'n rhan annatod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig ehangach. Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, rwy'n cael fy nghynorthwyo gan dîm o wyth Gweinidog Ewcharistig sydd, bob dydd Sul, yn dod â'r Cymun Bendigaid i gleifion Catholig. Mae'r gweinidogion hyn yn gwneud tua 900 o ymweliadau wrth erchwyn y gwely y flwyddyn. |
|
Imam Farid Kahn (Mwslimaidd)Cefais fy mhenodi'n Gaplan yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Gorffennaf 2018 i ddarparu cymorth a chefnogaeth grefyddol, ysbrydol a bugeiliol i gleifion Mwslimaidd. Fi oedd y Caplan Mwslimaidd cyntaf yng Nghymru ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn 2003 yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, a chyflawnais ddyletswyddau fel Caplan Carchardai yn CEM Parc Pen-y-bont ar Ogwr am fwy na degawd. Mae gen i gysylltiadau cryf iawn â'r gymuned Fwslimaidd ledled Cymru ac rwyf hefyd yn amlieithog. Gallaf gyfathrebu a siarad Saesneg, Bengali, Arabeg, Wrdw, Hindi a Sylheti. |
|
Chwaer Amina Shabaan (Mwslimaidd)Ymunais â Thîm Caplaniaeth BIP Caerdydd a'r Fro yn 2016, a fi oedd y Caplan Mwslimaidd benywaidd cyntaf. Rwyf wedi chwarae rhan weithredol mewn cymunedau lleol ers blynyddoedd lawer bellach ac mae bod yn Gaplan yn rhoi'r sylfaen berffaith i mi helpu a chefnogi pobl drwy faeth ysbrydol. Mae bod ar flaen y gad yn yr Adran Gaplaniaeth yn rhoi cyfle i mi ryngweithio â phobl o grefyddau a chefndiroedd eraill. Rwy'n darparu gofal ysbrydol, cefnogaeth a chlust i wrando yn ystod yr eiliadau hanfodol hynny. Rwyf hefyd yn darparu cymorth Caplaniaeth yn y Brifysgol, yn addysgu Arabeg ac yn arholwr Quran cymwys. |
|
Y Parchedig Caroline John (Yr Eglwys yng Nghymru)Ymunais â Thîm y Gaplaniaeth yn 2018 ar ôl gweithio yn Eglwys Gadeiriol Bangor fel Is-ganon. Yn ystod y cyfnod hwn bûm yn rhedeg y Banc Bwyd ac roeddwn yn Gaplan i'r côr yn ogystal â chymryd rhan yn y rownd arferol o weinidogaethau'r plwyf. Cefais fy ngeni yn Lloegr a chefais fy ordeinio i'r Eglwys yng Nghymru yn 1990 a threuliais y 19 mlynedd nesaf yng Ngheredigion. Roeddwn yn gurad yn Aberteifi ac Aberystwyth. |
|
Y Parchedig Sangkhuma Hmar (Presbyteraidd)Rwy'n dod o Mizoram, India lle mae cenhadon Prydeinig wedi bod yn lledaenu Cristnogaeth ac addysg a sefydlu ysbytai yng Ngogledd Ddwyrain India ers y 1890au. Rwy'n weinidog wedi’i ordeinio yn eglwys Bresbyteraidd Mizoram ac rwyf wedi gwasanaethu mewn gwahanol rolau fel Gweinidog, Ysgrifennydd Maes Cenhadaeth, Ysgrifennydd Gweinyddol a Chynulliad Cyffredinol eglwys Bresbyteraidd India tan 1998. Bûm yn Bartner mewn Cenhadaeth wedi fy noddi gan Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM) gan weithio ochr yn ochr ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru tan 2019. Hyd nes ymuno â thîm y gaplaniaeth ym mis Gorffennaf 2021, gwirfoddolais i wasanaethu grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn Ne Cymru a helpodd fi i werthfawrogi'r heriau o groesi'r rhaniad a chofleidio amrywiaeth. |
|
Y Parchedig Andy Gibbs (Bedyddiwr)Ymunais â Thîm y Gaplaniaeth yn Ebrill 2021 fel gweinidog y Bedyddwyr yn dilyn gyrfa 27 mlynedd yn y sector amgylcheddol. Yn ystod y cyfnod hwn cyflawnais sawl rôl amrywiol, o sgubo’r strydoedd a gwaith gweinyddol i gynnal timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr amgylcheddol a thechnegol. Yn 2016, gadawais i astudio’n llawn amser ym Mhrifysgol Caerdydd a chwblhau fy ffurfiant gweinidogol drwy Goleg Bedyddwyr De Cymru. Am lawer o’m gyrfa rwyf hefyd wedi bod yn ymwneud ag arweinyddiaeth eglwysig. Roeddwn yn weinidog mewn eglwys yn y Barri yn ystod fy hyfforddiant, ac rydw i bellach yn gweithio gydag eglwysi ar draws De Cymru, yn enwedig yng Nghaerdydd a’r Fro. |
Mae ein Caplaniaid wrth law i gynnig cefnogaeth ym mhob ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Mae gan YAC ac YALl o leiaf un Caplan ar y safle o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30 a 16:30 a bydd un o'r tîm ar gael ar y safleoedd eraill unwaith yr wythnos. Y tu allan i'r oriau hyn mae gwasanaeth ar alwad 24/7/365 yn gweithredu i sicrhau bod y rhai sydd angen gofal ysbrydol yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei hangen arnynt.
Gall unrhyw glaf ofyn am gymorth drwy ofyn i dîm y ward gysylltu â'r Gaplaniaeth a bydd un o'r tîm yn trefnu ymweld â nhw. Os yw'r angen yn sylweddol ac yn fater brys, gall staff y ward gysylltu â’r Caplan ar Ddyletswydd a fydd yn mynychu cyn gynted â phosibl.
Gall unrhyw un sy'n gallu gwneud hynny hefyd ymweld â swyddfeydd y Gaplaniaeth yn YAC ac YALl sydd wedi'u lleoli wrth ymyl y Noddfa yn y ddau adeilad. Mae’r swyddfeydd yn YAC ar Floc B ar y pumed llawr ac yn YALl ar goridor llawr daear y Dwyrain.
Gall unrhyw aelod o staff gysylltu â'r tîm drwy'r un llwybrau i drefnu cyfarfod gydag un o'r Caplaniaid. Os ydynt am gwrdd â Chaplan penodol, gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar bosteri ledled yr ysbytai.