Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â Thîm Gofal Iechyd CEM Caerdydd

Nyrs yn sefyll yn y carchar yn gwenu

14 Mawrth 2023

Mae'r tîm gofal iechyd yng Ngharchar Ei Mawrhydi (CEM) Caerdydd yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â darparu gofal i garcharorion ag ystod eang o broblemau iechyd meddwl a chorfforol, trefnu’r broses o dderbyn a rhyddhau carcharorion, ac asesu, cynllunio a gwerthuso gofal.

Canolfan remánd yw CEM Caerdydd, sy'n cwmpasu llysoedd De-ddwyrain Cymru ac mae lle i hyd at 800 o ddynion yn y carchar. Mae gweithio mewn amgylchedd carchar yn brofiad heriol, ond unigryw, sy’n cynnwys sicrhau bod gofal holistaidd a gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion yn cael ei ddarparu, ac ystyried anghenion gofal a chefnogaeth barhaus carcharorion pan fyddant yn cael eu rhyddhau o'r carchar.

Mae tîm CEM Caerdydd yn cynnig cyfle i unigolion glywed mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi carcharorion a chael mwy o wybodaeth am y rolau sydd ar gael o fewn gofal iechyd yn y carchar mewn digwyddiad pwrpasol 'Cwrdd â Thîm Gofal Iechyd CEM Caerdydd'.

Os ydych chi'n feddyg teulu, yn nyrs gofrestredig, yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd neu'n Dechnegydd Fferyllfa a hoffai gael gwybod mwy am y carchar a sut mae'r tîm amlddisgyblaethol yn gweithredu, bydd cyfle i gael trafodaethau 1-1 gyda holl aelodau'r tîm a'r Llywodraethwr.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 23 Mawrth am 6pm-7:30pm o fewn y Capel yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI).

Gallwch barcio ar y safle o flaen CRI ac yn y cefn, drwy wasgu’r botwm galwadau.

 

Tysteb Staff

Jordan White, Nyrs Staff yn CEM Caerdydd

"Gan weithio fel nyrs staff, prif agwedd fy rôl yw darparu gofal i garcharorion fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod y dynion yn ein gofal yn cael yr un gofal iechyd y byddent yn ei dderbyn yn y gymuned.

"Mae'r carcharorion rwy'n gweithio gyda nhw yn aml yn agored i niwed ac mae ganddynt anghenion gofal iechyd cymhleth a heriol, ac o safbwynt y rhai sy'n iach, ein nod yw eu cadw'n iach trwy addysg ac amryw weithgareddau hybu iechyd.

"Mae gweithio mewn amgylchedd carchar yn gallu bod yn heriol iawn ac nid yw’n debyg i unrhyw swydd gofal iechyd arall yr wyf wedi'i gwneud o'r blaen. Er gwaetha'r heriau, mae'r swydd hefyd yn rhoi boddhad mawr a gallaf ddweud yn onest fy mod yn teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth bron bob dydd."

Dilynwch ni