Ionawr 2024
Sgrinio am ganser ceg y groth yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag canser ceg y groth — ond nid yw 1 o bob 4 o bobl yn mynychu eu hapwyntiad.
Bydd menywod ac unigolion â cheg y groth rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob pum mlynedd o leiaf unwaith y byddant wedi profi’n negyddol i HPV. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dod i’ch apwyntiad oherwydd sgrinio serfigol yw un o’r ffyrdd gorau o atal canser ceg y groth.
Prif nodau sgrinio serfigol yw lleihau:
I gefnogi Mis Ymwy Byddiaeth Canser Serfigol, rydym wedi ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio serfigol yng Nghymru, ewch i phw.nhs.wales.