Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb 2023 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

28 Rhagfyr 2023

Yn nyddiau olaf 2023, rydym yn teimlo’n falch ac yn ddiolchgar wrth fyfyrio ar sut mae cydweithwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel a ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

Gwobrau a chyflawniadau

Yn ystod y flwyddyn cafodd nifer o gydweithwyr a thimau eu cydnabod yn genedlaethol am eu gwaith.

  • Ym mis Mehefin, cafodd Tara Rees, Ymarferydd Nyrsio Arweiniol yn y gwasanaeth Hepatoleg, ei henwi yn Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Daeth y wobr fawreddog hon ychydig wythnosau ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ymuno â sefydliad rhyngwladol Florence Nightingale Foundation fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi, datblygu a chadw nyrsys a bydwragedd.
  • Yng ngwobrau CBS Plant a Menywod ym mis Gorffennaf, cafodd cydweithwyr ar draws y Bwrdd Clinigol Plant a Menywod eu cydnabod am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u hangerdd i gefnogi cleifion a’u teuluoedd.
  • Enillodd Model Adsefydlu Caerdydd a’r Fro ‘Wobr Llywodraeth Cymru am Ofal yn Seiliedig ar Werth: Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau i Gyflawni’r Canlyniadau Gorau Posibl’ yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd (AHA) 2023.
  • Clinigwyr ar ward gardiaidd, B1, yn Ysbyty Athrofaol Cymru oedd y cyntaf i dderbyn y Wobr Achrediad Efydd newydd am eu canlyniadau cadarnhaol i gydweithwyr a chleifion.
  • Ym mis Hydref, cafodd Gwasanaeth Byw’n Dda Caerdydd a’r Fro gydnabyddiaeth gan AHA Cymru gyda’r ‘Wobr am Ragoriaeth mewn Adsefydlu’ 2023.
  • Dyfarnwyd Medal Ronald Edwards am y Cyflwyniad Llafar Gwyddonol Gorau i Christopher Roche, llawfeddyg cardiothorasig dan hyfforddiant, am ei waith ymchwil i batshys calon bioprintiedig 3D.
  • Cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Eithriadol GIG Cymru am Wasanaethau i Ddiabetes yng Ngwobrau Diabetes Ansawdd mewn Gofal (QiC) i Rachael Humphreys, Nyrs Arbenigol Diabetes Pediatrig yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Rydyn ni’n dathlu’r llwyddiannau hyn yn ogystal â’r holl lwyddiannau bob dydd sy’n gwneud gwahaniaeth.

Arloesi a chyfleusterau newydd

Yn 2023, agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyfleusterau newydd a fydd yn gwella profiad cleifion yng Nghaerdydd a’r Fro.

  • Ym mis Ionawr, agorwyd Meddygfa’r Eglwys Newydd, canolfan feddygol o’r radd flaenaf, a adeiladwyd gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Uwch Bartner y feddygfa, Dr Gareth Lloyd: “Mae hwn yn gam mawr i’n cleifion a’n staff a bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adeilad addas sydd â’r capasiti i ateb y galw.”
  • Ym mis Ebrill, dathlodd y tîm llawfeddygol garreg filltir pan gynhaliwyd y 100fed llawdriniaeth robotig yng Nghymru. Wrth siarad am ei brofiad o gael llawdriniaeth y colon a’r rhefr gan ddefnyddio robot Versius yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dywedodd Raymond Leyshon, “Mae’r llawdriniaeth roboteg wedi newid fy mywyd, gan ei fod yn fy ngalluogi i fynd yn ôl adref at fy nheulu dim ond pedwar diwrnod ar ôl fy llawdriniaeth ac, ar wahân i fy mag stoma, does gen i bron ddim creithio ac rydw i bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen i gam nesaf fy nhaith adfer.”
  • Ym mis Awst, agorodd y Prif Weithredwr, Suzanne Rankin, ddau glinig trawma arbenigol newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd y clinigau hyn, ar gyfer cleifion sy’n oedolion a chleifion pediatrig, yn darparu gofal orthopedig, asgwrn cefn a thrawma cymhleth o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 35,000 o gleifion y flwyddyn.
  • Ym mis Medi, cafodd canolfan iechyd meddwl a lles emosiynol newydd i bobl ifanc, ‘The Hangout’, ei agor yn swyddogol yng nghanol dinas Caerdydd. Mae ‘The Hangout’, sy’n cael ei redeg gan elusen Platfform, yn gweithio’n agos gyda’r tîm gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, i’w gwneud hi’n haws i bobl ifanc 11-18 oed i gael cymorth iechyd meddwl pan fydd ei angen arnynt.
  • Ym mis Rhagfyr, agorwyd drysau Canolfan Iechyd Genomig Cymru (CIGC) yn Coryton, Gogledd Caerdydd, yn swyddogol fel canolfan genomeg a meddygaeth fanwl. Agorwyd y ganolfan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS, a ddywedodd “Rydym eisoes wedi gweld llwyddiant gyda mentrau arloesol yn y maes hwn ac rwy’n gobeithio y bydd y cyfleuster newydd yn helpu i adeiladu ar y gwaith hwn a chreu mwy o gyfleoedd i genomeg drawsnewid gofal iechyd, gwella canlyniadau cleifion, a chyfrannu at ffyniant pobl Cymru.”

Rhoi pobl yn gyntaf

Eleni croesawodd y gwasanaethau mamolaeth xxx o fabis i’r byd. Ym mis Mai, dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig a Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys, gan gydnabod y gwaith anhygoel y mae’r cydweithwyr bydwreigiaeth a nyrsio hyn yn ei wneud yng Nghaerdydd a’r Fro a diolch iddynt am bopeth a wnânt bob dydd o’r flwyddyn.

Ym mis Gorffennaf, buom yn dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed gyda negeseuon fideo yn llongyfarch, perfformiadau corawl, dadorchuddio gwaith celf ‘Dawns Bywyd’ Geraint yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac oriel ddigidol o luniau drwy’r oesoedd y bu aelodau o’r cyhoedd yn cyfrannu ato. Roeddem yn falch iawn o dderbyn llun o Peter Woolston, y babi cyntaf a anwyd yng Nghaerdydd ar y diwrnod y crëwyd y GIG.

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Medi, lansiwyd y strategaeth ddeng mlynedd newydd.

Datblygwyd y strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, rhanddeiliaid, partneriaid a chydweithwyr mewn digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae’r strategaeth yn ceisio adeiladu ar y blaenoriaethau o roi pobl yn gyntaf, darparu ansawdd rhagorol, cyflawni yn y mannau cywir a gweithredu ar gyfer y dyfodol.

Dechrau da i 2024

Er gwaethaf yr holl heriau drwy gydol 2023, mae timau ar draws y bwrdd iechyd wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad. Wrth i ni gyrraedd y flwyddyn 2024, gyda’n cydweithwyr yn gweithio ar y cyd, yn defnyddio technolegau newydd ac yn addasu’n dda, edrychwn ymlaen at ddarparu gofal a thriniaeth mewn ffordd garedig a thosturiol i’r rhai sydd ei angen.)

Diolchwn i’n cydweithwyr am eu holl ymdrech yn ystod 2023, a dymunwn flwyddyn newydd iach a hapus iddynt, ynghyd â’n partneriaid, ein cleifion a’n cymunedau.

Dilynwch ni