22 Medi 2025
Yn ddiweddar, mae'r bwrdd iechyd wedi croesawu carfan newydd o fyfyrwyr drwy raglen interniaeth a gefnogir Project SEARCH.
Mae Project SEARCH yn rhaglen cyn-gyflogaeth unigryw sy'n helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu i ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swyddi ystyrlon â thâl. Mae’n rhaglen pontio i waith ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 – 24 oed, gan weithio ar y cyd â chynghorau ac ysgolion lleol.
Bydd y saith person ifanc yn gweithio mewn amrywiaeth o adrannau ar draws y bwrdd iechyd, gan ennill profiad gwaith amhrisiadwy. Mae'r adrannau hyn yn cynnwys Patholeg Gellog, Cofnodion Meddygol, Cleifion Allanol Ffisiotherapi, Cynnal a Chadw, Arlwyo ar Wardiau, Radioleg, Profiad y Claf a’r Gwasanaeth Porthorion.
Mae interniaid Project SEARCH blaenorol wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaethau, rhagor o brofiad gwaith a chyflogaeth amser llawn diolch i'r sgiliau, yr hyder a'r gefnogaeth a gawsant o'r interniaeth.
Dywedodd un o'r interniaid newydd o'r enw Sam: “Roeddwn i'n nerfus ar fy niwrnod cyntaf ond yn gyffrous am yr hyn sydd o'm blaen eleni. Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau lleoliadau a dysgu sgiliau newydd a fydd yn fy helpu yn fy nyfodol.”
Dywedodd intern arall o'r enw Luke: “Rwy'n teimlo'n gyffrous i brofi rhywbeth gwahanol yn hytrach na bod yn yr ysgol. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd o wahanol gefndiroedd a phrofi bywyd gwaith.”
Croeso i garfan newydd Project SEARCH a dymunwn y gorau i chi yn ystod eich amser gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Dysgwch fwy am Project SEARCH yma: https://cavuhb.nhs.wales/jobs/careers-in-the-nhs/dfn-project-search/
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.