20 Ebrill 2023
Mae coridor yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru wedi cael ei drawsnewid yn olygfa liwgar o dan y dŵr diolch i furlun wal newydd ar thema'r môr.
Paentiodd gwirfoddolwyr o’r Charitable Art Collective y murlun lliwgar ar ffenestri coridor yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd dros benwythnos y 15fed a'r 16eg o Ebrill — gan roi bywyd newydd i’r ardal.
Mae llawer o blant, teuluoedd a chydweithwyr yn mynd trwy'r coridor gwydr yn ddyddiol ac roedd staff yr ysbyty plant yn awyddus i wneud y gofod yn fwy deniadol a chyfeillgar i blant.
Dywedodd Alison Oliver, Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Ysbyty Plant Cymru: “Pan ddaeth y Charitable Art Collective atom, roeddem yn falch o dderbyn eu cynnig caredig i wella'r coridor a'i wneud yn fwy cyfeillgar i blant. Mae'r coridor mynediad yn dywyllach na rhannau eraill o'r ysbyty ac nid oedd wedi'i addurno mor braf.
“Daeth y tîm i mewn dros benwythnos a gwneud gwelliant sylweddol i'r coridor gwydrog ar gyfer ein cleifion ifanc, sy'n defnyddio'r llwybr i gael mynediad i’n hadran cleifion allanol i blant a'n wardiau i gyd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i'r tîm o wirfoddolwyr am wneud yr ardal hon yn brofiad llawer gwell i'n plant a'u teuluoedd.”
Cafodd y Charitable Art Collective ei sefydlu gan yr artist stryd o Gaerffili, Matt Dey, a ddaeth â tîm o naw gwirfoddolwr at ei gilydd i baentio'r dyluniad lliwgar.
Dywedodd Rhiannon Stone, Rheolwr Prosiect yn y Charitable Art Collective: “Dechreuon ni'r prosiect Paintings of Purpose gyda'r nod o ddod â phaentiadau ffenestr lliwgar i wardiau plant ac ysbytai ledled y DU.
“Gyda thîm anhygoel o naw artist talentog a deithiodd o bell ac agos, ein nod cyntaf yn safle gwych Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru oedd troi cyntedd diflas yn llwybr hwyliog a lliwgar i deuluoedd ei fwynhau.
“Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig yr artistiaid am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a rhannu eu sgiliau anhygoel, ac i'r ysbyty am ein gwahodd i beintio rhywbeth llachar a hapus yn yr hyn a all ymddangos yn amgylchedd pryderus.”