Neidio i'r prif gynnwy

Coleg Adfer a Lles yn dathlu ei raddedigion diweddaraf

Mae’n anrhydedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddathlu Graddedigion Cymorth Cymheiriaid Coleg Adfer a Lles 2023. Mae'r Coleg Adfer a Lles wedi cynnal tri Chwrs Cymorth Cymheiriaid penodol yn llwyddiannus, gan arwain at 255 o fyfyrwyr yn graddio  dros y tair blynedd diwethaf.

Roedd Dan Crossland, Pennaeth Gweithrediadau Iechyd Meddwl, Ceri Phillips, Is-Gadeirydd ac AaGIC ac Arweinwyr Cymorth Cymheiriaid Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn bresennol yn y digwyddiad dathlu hwn.

Beth yw’r Cwrs Achrededig Mentora Cymheiriaid Lefel 1?

Mewn partneriaeth â Growing Space, mae’r Cwrs Achrededig Mentora Cymheiriaid Lefel 1 yn gwrs rhithwir sy’n cynnwys tri sesiwn Teams. Mentor cymheiriaid yw rhywun sydd â ‘phrofiad bywyd o broblemau iechyd meddwl’, sydd wedi’i hyfforddi ac yn gweithio (â thâl neu’n wirfoddol) mewn rôl ffurfiol i gefnogi eraill gyda’u hadferiad. Fel mentor cymheiriaid, rydych chi'n cynnig cefnogaeth trwy brofiadau personol a rennir o adferiad i ysbrydoli gobaith a grymuso eraill.

Nid oes rhaid i chi fod mewn rôl mentor cymheiriaid ar hyn o bryd i gofrestru ar y cwrs hwn, gan ei fod yn gyflwyniad i sgiliau mentora cymheiriaid.

Mae’r myfyriwr graddedig, Dave Jones yn oroeswr strôc ac roedd yn wirfoddolwr yn 'Down to Earth' cyn cwblhau ei Gwrs Achrededig Mentora Cymheiriaid Lefel 1, ond diolch i'w waith caled, mae bellach wedi dod o hyd i waith cyflogedig mewn mentora cymheiriaid;

“Cefais ddwy strôc, un yn 2017 ac un arall yn 2018. Es i o fod yn berson iach 36 oed a oedd yn bwyta'n iach ac yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, i fod yn glaf mewn ysbyty wedi colli rheolaeth ar 85% o ochr dde fy nghorff ac yn methu cerdded na siarad.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ac ar ôl cwblhau Cwrs Achrededig Mentora Cymheiriaid Lefel 1, cefais gynnig cyflogaeth â thâl gan y Gymdeithas Strôc fel Cydlynydd Cymorth. Gallaf nawr helpu eraill ar eu taith strôc ac aelodau eu teulu hefyd.”

Beth yw ImROC?

Mae Hyfforddiant Cymorth Cymheiriaid ImROC yn gwrs a grëwyd ar gyfer gweithwyr cymorth cymheiriaid i feithrin a datblygu eu harferion a'u sgiliau i gynorthwyo adferiad y rhai sy'n byw gyda chyflyrau meddyliol a chorfforol hirdymor.

Gwnaeth Selina, un o raddedigion llwyddiannus ImROC, rannu ei phrofiad;

Ar fy nhaith, roeddwn i’n edrych ar wneud cwrs cwnsela. Ar ôl cymryd rhan yn rhai o gyrsiau'r Coleg Adfer fy hun, credais fod y cyrsiau ‘Dwi jyst methu cysgu' a 'Deall Gorbryder' yn ddefnyddiol iawn. Ymunais â rhestr bostio’r Coleg Adfer a Lles ar ôl cwblhau’r cyrsiau, arweiniodd un peth at y llall a dyma fi, yn graddio heddiw!”

Rwyf wedi cwblhau ImROC ac rwy'n edrych i ddechrau Cymorth Cymheiriaid lefel 1 nesaf. Mae'n apelio'n fawr ataf oherwydd gallwch weithio o amgylch eich teulu. Rydw i hefyd yn gobeithio cael cyflogaeth yn sgil hyn.”

Beth yw Cymorth Bwriadol gan Gymheiriaid

Mae Cymorth Bwriadol gan Gymheiriaid (IPS) yn hyfforddiant ar gyfer cymheiriaid sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, wedi’i hwyluso gan y Coleg Adfer Cenedlaethol.

Mae'r hyfforddiant yn darparu ffyrdd newydd o ddysgu a datblygu cydberthnasau i gymheiriaid er mwyn meithrin cydgymorth. I fynychu cwrs hyfforddi IPS, mae’n rhaid bod gan gymheiriaid brofiad bywyd o heriau iechyd meddwl neu drawma ac yn bwriadu defnyddio’r profiad mewn rolau cymorth gan gymheiriaid neu wirfoddoli yng Nghymru.

Mae Hugh yn Gymheiriad Digidol yn y Coleg Adfer a Lles a ymgymerodd â hyfforddiant IPS yn y Coleg yn ddiweddar, “Roedd pawb yn gefnogol iawn. Yr hyfforddwyr a chyd-fyfyrwyr ar y cwrs hefyd – roedd pawb yn cefnogi ei gilydd a oedd yn wych.

Rwyf wedi dysgu cymaint o dechnegau ar sut i gynnal sgyrsiau i feithrin ymddiriedaeth gyda phobl, chwalu rhwystrau a chreu cysylltiadau â phobl a deall pobl yn well. Gallaf weld y gallaf ei ddefnyddio gyda theulu a ffrindiau yn ogystal ag yn y gwaith.”

Gwnaeth yr Is-Gadeirydd, Ceri Philips gyflwyno’r ardystiadau i'r garfan; “Rwy’n falch iawn o gael cyflwyno yn nigwyddiad Graddio’r Cymheiriaid ac mae’n wych gweld cymaint o raddedigion llwyddiannus. Mae’r Coleg Adfer a Lles yn fenter unigryw ac effeithiol, sy’n darparu cyrsiau am ddim ar bynciau iechyd meddwl a chorfforol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi unigolion sy’n awyddus i uwchsgilio ac ehangu eu dealltwriaeth o iechyd meddwl a dymunaf bob lwc iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro

Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Caiff ein cyrsiau eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a’r Fro. 

Er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod am gyrsiau a digwyddiadau'r Coleg Adfer a Lles, dilynwch Facebook a Twitter.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y Coleg Adfer a Lles trwy ymuno â'r rhestr bostio yma.

Dilynwch ni