Neidio i'r prif gynnwy

Cofiwch y Dyddiad! Digwyddiad Ymgysylltu â'r Cynllun Strategol i Fabanod, Plant a Phobl Ifanc

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wahodd cydweithwyr a phartneriaid i helpu i lunio ein gweledigaeth a’n cynllun hirdymor ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc.

Mae’r Bwrdd Clinigol Plant a Menywod, ochr yn ochr â’r Tîm Cynllunio Strategol, yn datblygu cynlluniau ar gyfer 2035 a fydd yn disgrifio ein huchelgeisiau ac yn gosod map ffordd ar gyfer cyflawni’r rhain yn unol â’n strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.

Bydd nifer o stondinau yn y digwyddiad lle byddwch yn gallu siarad â rhai o’n harweinwyr, ochr yn ochr â’n Bwrdd Ieuenctid, am bynciau megis iechyd y boblogaeth ac atal, gofal brys a gofal wedi’i gynllunio, pontio a gofal lliniarol.

Cofiwch y dyddiad.

Manylion:

Dyddiad: Dydd Mercher 28 Awst

Amser: 1-4pm

Lleoliad: Neuadd Hamdden, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol

Ysbyty Athrofaol Cymru

Dilynwch ni