Neidio i'r prif gynnwy

Cofiwch y cam NESA i drin strôc ac achub bywydau

27 Ebrill 2023

Mae pobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo â symptomau strôc - un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru. 

Mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn dweud bod triniaeth feddygol gynnar ar gyfer strôc nid yn unig yn achub bywydau ond yn cynyddu’r siawns o wella. 

Mae ymgyrch Cofiwch y Cam N.E.S.A. (Act FAST) yn lansio ledled Cymru ddydd Iau, 27 Ebrill i atgoffa pobl am symptomau strôc a phwysigrwydd cael cymorth meddygol brys. 

Strôc yw pumed prif achos marwolaeth yng Nghymru a’r prif achos o anabledd cymhleth. Mae oedi wrth gael triniaeth ar gyfer strôc yn lladd celloedd yr ymennydd ac yn anffodus gall fod yn dyngedfennol. Dyna pam ei bod yn bwysig cofio’r cam NESA: 

  • Nam ar yr wyneb - a yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu? 
  • Estyn - ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno? 
  • Siarad - ydyn nhw’n siarad yn aneglur? 
  • Amser - hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, ffoniwch 999. 

Dywedodd Shakeel Ahmad, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc: “Am bob munud mae strôc yn cael ei adael heb ei drin, mae hyd at ddwy filiwn o gelloedd yr ymennydd yn marw, felly mae’n bwysig cofio’r cam NESA. Gall wneud gwahaniaeth sylweddol i siawns rhywun o oroesi yn ogystal â gwella eu hadferiad.” 

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru y Gymdeithas Strôc: “Bob pum munud, bydd rhywun yn y DU yn cael strôc. Mae strôc yn lladd degau o filoedd ac yn gadael eraill ag anabledd cymhleth a difrifol bob blwyddyn. 

“Cofio’r cam NESA yw’r peth gorau y gallwch ei wneud i achub bywyd. Cyn gynted ag y byddwch yn gweld unrhyw un o’r arwyddion o strôc yn eich hun neu yn rhywun arall, mae angen i chi ffonio 999. Mae trin mân strôc gyda’r un brys â strôc hefyd yn hanfodol. Os gwelwch unrhyw un o’r arwyddion hyn, hyd yn oed am gyfnod byr, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu. 

Ychwanegodd: “Y llynedd, gwelsom filoedd o bobl ag amheuaeth o strôc yn oedi cyn ffonio 999 gan eu bod yn ofni dal COVID-19 neu fod yn faich ar y GIG. Gallai pobl bellach fod yn byw gydag anabledd mwy difrifol nag y byddent fel arall oherwydd eu bod wedi oedi cyn ffonio 999. Dyna pam mae angen i chi wybod bod cofio’r cam NESA a ffonio 999 yn achub bywydau.” 

I gael rhagor o fanylion am ‘Cofiwch y Cam N.E.S.A.’, ewch i GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Strôc

Dilynwch ni