27 Chwefror 2023
I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, rydym wedi llunio gwybodaeth ddefnyddiol am anhwylderau bwyta ac adnoddau lleol sy'n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i'r rhai sy'n dioddef.
Mae anhwylder bwyta yn gyflwr iechyd meddwl a all effeithio ar bobl o unrhyw ddemograffeg lle mae pobl yn datblygu arferion bwyta afiach dan ddylanwad emosiynau a phryderon ynghylch delwedd y corff. Yn anffodus, mae anhwylderau bwyta yn gyfrifol am fwy o farwolaethau nag unrhyw salwch iechyd meddwl arall.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod tua 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef anhwylder bwyta, ac mae tua 75% o’r nifer hwnnw’n fenywod. Er y gall hyn effeithio ar bob oedran, mae'n fwyaf cyffredin ymhlith pobl ifanc 13-17 oed.
Er nad oes achos uniongyrchol drosto, gall ffactorau genetig, amgylcheddol a seicolegol ddylanwadu ar ddatblygiad anhwylder bwyta.
Mae yna wahanol fathau o anhwylderau bwyta, a’r tri mwyaf cyffredin yw:
Anorecsia
Mae anorecsia yn gyflwr iechyd meddwl difrifol. Mae pobl ag anorecsia yn tueddu i beidio â bwyta digon a gwneud gormod o ymarfer corff, gan gynnal BMI isel am eu bod yn ofni y byddant yn mynd dros bwysau. Gall pobl sy'n dioddef anorecsia hirdymor fynd yn ddifrifol wael a datblygu problemau ffrwythlondeb. I gael trosolwg pellach o anorecsia cliciwch yma.
Bwlimia
Mae pobl sy'n dioddef bwlimia yn dueddol o orfwyta mewn cyfnod byr o amser ac yna'n gwneud i’w hunain chwydu, neu'n defnyddio tabledi i wneud iddynt fynd i’r tŷ bach er mwyn tynnu'r bwyd o'u corff, ac osgoi magu pwysau. Gall bwlimia achosi problemau deintyddol, stumog ac esgyrn yn ogystal ag arwain at risgiau iechyd difrifol pellach. I gael trosolwg pellach o bwlimia cliciwch yma.
Gorfwyta mewn pyliau
Mae anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn golygu gorfwyta'n gyflym nes eich bod yn boenus o lawn. Yn aml mae’r rhai sy'n gorfwyta mewn pyliau yn bwyta'n gyfrinachol ac yn teimlo euogrwydd a chywilydd ar ôl iddynt fwyta. Gall gorfwyta arwain at ragor o anawsterau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder a hunan-barch isel. Gall hefyd arwain at broblemau iechyd, megis gordewdra, diabetes math dau a chlefyd y galon. I gael trosolwg pellach o orfwyta mewn pyliau cliciwch yma.
Hyd yn oed os nad yw eich symptomau fel arfer yn cyfateb i rai Anorecsia, Bwlimia a Gorfwyta mewn Pyliau, gallech gael diagnosis o 'anhwylder bwydo neu fwyta penodedig arall' (OSFED) o hyd. Y peth pwysig yw ceisio'r cymorth cywir i ddechrau taith adfer iach.
Gall cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta fod yn heriol iawn. Gall fod yn anodd deall os nad ydych wedi ei brofi eich hun, ac yn aml gallwch deimlo'n ofidus ac yn ddryslyd ynghylch pam mae rhywun yr ydych yn gofalu amdano yn achosi niwed i'w hun. Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n meddwl sy'n dioddef, dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i'w cefnogi:
Nid yw adferiad yn ras, mae'n cymryd amser. Bydd taith adfer pawb yn wahanol. Y peth pwysig yw eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch i sicrhau eich bod ar lwybr adferiad iach sy'n gweithio i chi. Isod mae nifer o wasanaethau sydd ar waith yng Nghaerdydd a all gynnig cymorth i chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod sy'n dioddef anhwylder bwyta:
Plant a pobl ifanc:
Oedolion:
Pob oed: