Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau dal i fyny brechlyn HPV yn cael eu cynnal ar 22 Gorffennaf

16 Gorffennaf 2024

Mae plant ysgolion uwchradd a gollodd y cyfle i dderbyn brechlyn sy'n cynnig amddiffyniad hanfodol yn erbyn sawl math o ganser yn cael eu gwahodd i glinigau dal i fyny yn y gymuned.

Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a'r Fro yn ymweld ag Ysbyty Rookwood ac Ysbyty'r Barri ddydd Llun, 22 Gorffennaf i roi'r brechlyn human papillomavirus (HPV) i'r rhai ym Mlynyddoedd 8 i 11. Mae manylion isod am sut i drefnu apwyntiad.

Mae'r brechlyn, sy'n cael ei gynnig yn rheolaidd am ddim yn yr ysgol i bob plentyn 12 a 13 oed, wedi bod yn hynod effeithiol o ran lleihau'r risg o gael HPV, grŵp o fwy na 100 o feirysau sydd fel arfer yn cael eu trosglwyddo trwy gyswllt croen i groen.  

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HPV yn clirio’r feirws o’u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl ond, i eraill, gall achosi dafadennau gwenerol neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser ceg y groth ymhlith menywod, a chanserau’r pen a’r gwddf sydd fwyaf cyffredin ymhlith dynion.  

Fel arfer nid oes gan HPV unrhyw symptomau, a dyna pam ei bod mor hawdd ei drosglwyddo. Bydd mwy na 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn cael HPV ar ryw adeg yn eu bywyd.  

Ond hyd yma mae’r brechlyn wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.  

Y gwanwyn diwethaf, bu Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion ar draws y rhanbarth i roi’r brechlyn HPV i ddisgyblion Blwyddyn 8, ynghyd â’r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a fethodd eu brechlyn ym Mlwyddyn 8.

Fodd bynnag, bydd y rhai ym Mlynyddoedd 8 i 11 nad ydynt wedi derbyn y brechlyn yn gallu manteisio ar y cyfle i’w gael ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun, 22 Gorffennaf 2024, 10am-12pm: Ysbyty Rookwood, Heol y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2YN
  • Dydd Llun, 22 Gorffennaf 2024, 10am-12pm: Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, y Barri, CF62 8HY

I wneud apwyntiad ar gyfer y brechlyn HPV, cysylltwch â'r Tîm Imiwneiddio ar 02920 907661 neu 02920 907664.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Sefydliad CPD Dinas Caerdydd ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn HPV. Gallwch ddarllen rhagor amdano yma.

Dilynwch ni