Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir o ran darparu gofal ar draws Cymru wrth i'r clinig lloeren cyntaf gael ei gyflwyno i gleifion yng ngogledd Cymru.
Wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd, mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn wasanaeth trydyddol sy'n darparu gofal holistaidd sy'n canolbwyntio ar y claf ac mae’r ffocws ar yr agweddau hormonaidd, seicolegol a chymdeithasol ar drawsnewid.
O ran darparu gwasanaethau i gleifion ledled Cymru, hyd yma mae cleifion naill ai wedi cael mynediad at apwyntiadau clinig yn rhithwir, neu wedi teithio i'r brifddinas ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Gydag ymrwymiad i sicrhau proses decach o ddarparu apwyntiadau wyneb yn wyneb, mae'r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu clinigau lloeren ar draws y wlad i sicrhau bod y rhain yn fwy hygyrch i fwy o unigolion.
Bydd y clinigau, sy'n cael eu rhedeg gan glinigwyr Gwasanaeth Rhywedd Cymru, yn cael eu cynnal bob mis, gyda chleifion yn cael cynnig apwyntiadau yn seiliedig ar eu safle ar y rhestr aros ond gyda dewis o leoliad; boed hynny'n rhithwir, yng Nghaerdydd neu yng Ngogledd Cymru o hyn ymlaen.
Cynhelir y clinig lloeren cyntaf ym Meddygfa Panton, Treffynnon gyda Rheolwr y Practis a'r tîm ehangach yn gweithio'n ddiflino ar y cyd â'r gwasanaeth i sicrhau bod y clinigau hyn yn weithredol.
Dywedodd llefarydd o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC): "Fel comisiynwyr y gwasanaeth rydym yn falch iawn ac yn gefnogol o agor y clinig lloeren newydd. Mae dod â gofal yn agosach at gartref i gleifion yn amcan allweddol i WHSSC ac mae hon yn enghraifft dda iawn o sut mae'r tîm wedi gweithio'n galed i roi cleifion wrth galon datblygu gwasanaethau ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt."
Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn gobeithio parhau i ehangu ei ddarpariaeth o glinigau lloeren ledled Cymru yn ystod y deuddeg mis nesaf i sicrhau bod mwy o unigolion yn gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda chlinigwyr, yn agosach at eu cartrefi.