Oeddech chi’n gwybod, nid yw tua 55% o gleifion â chanser yn dangos ‘baner goch’ fodd bynnag maent yn aml yn profi symptomau annelwig fel colli pwysau anfwriadol, dim chwant bwyd, blinder, poen anesboniadwy yn yr abdomen neu yn y cefn, cyfog, diffyg anadl a/neu ganlyniadau profion gwaed annormal annisgwyl.
Gall peidio â chael diagnosis fod yn gyfnod pryderus iawn i’r claf a’i anwyliaid.
Gan fyfyrio ar ymchwil a llwyddiant astudiaeth beilot gynharach a gynhaliwyd yn 2017 gan gydweithwyr o Ddenmarc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg, lansiwyd y Clinig Diagnosis Cyflym (RDC) gan dîm bach o glinigwyr arbenigol, cydlynwyr, meddygon a meddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Ebrill 2023.
Gall cleifion 18+ oed nad ydynt yn addas ar gyfer llwybr safle-benodol neu sy’n dangos arwyddion o unrhyw un o'r symptomau anesboniadwy hyn bellach gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu at y RDC i gael eu sgrinio ar frys (archwiliad y fron, y prostad gan gynnwys mynediad at brofion gwaed, profion FIT a sganiau CT y thoracs, yr abdomen a’r pelfis) a chael diagnosis mewn cyn lleied â 9 diwrnod.
Er na fydd 90% o atgyfeiriadau cleifion yn arwain at ddiagnosis o ganser, ar gyfer y 10% sy’n weddill, mae hyn yn golygu mynediad cyflym at yr arbenigedd priodol ar gyfer ymchwiliad pellach a/neu driniaeth ddilynol.
Mae’r gwasanaeth wedi bod yn boblogaidd iawn diolch i ymdrech ar y cyd gan bawb a oedd yn ymwneud â’r ymgyrch i’w sefydlu a chodi ymwybyddiaeth ymhlith cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys Arbenigwr Nyrsio y Clinig Diagnosis Cyflym, Sharon Hulley a gyflwynodd ganlyniadau’r gwasanaeth yn ddiweddar i gynrychiolwyr a fynychodd y Rownd Fawr ar 11 Medi.
Esboniodd Sharon er mai Cymru sydd â’r cyfraddau marwolaeth canser uchaf, a bod ei data goroesi 1 a 5 mlynedd ymhlith yr isaf, bod y Clinig Diagnosis Cyflym yn gwella’r dirwedd i gleifion yn sylweddol trwy leihau nifer y diwrnodau o’r atgyfeiriad cychwynnol hyd at y diagnosis o 84.22 diwrnod i 6.2 diwrnod.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf o weithredu, mae’r gwasanaeth wedi cael 552 o atgyfeiriadau (cyfartaledd o 46 y mis) gyda 360 ohonynt wedi’u derbyn (55%) a hynny yn sgil cymhwysedd neu oedi o ran cysylltiad gan gleifion neu ddiffyg gwybodaeth ofynnol.
Y garfan uchaf o atgyfeiriadau oedd cleifion benywaidd yn bennaf (57%) a’r 4 symptom amwys y cyfeiriwyd atynt fwyaf oedd colli pwysau, canlyniadau annisgwyl yn y labordy, meddyg teulu yn amau achos o ganser neu flinder.
Roedd canlyniadau atgyfeirio ar gyfer diagnosau anfalaen (diagnosau anadlol, gastro, cardioleg, llawfeddygol a niwrolegol ac iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, deiet a ffactorau ffordd o fyw) yn 53.4% (sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o tua 30%).
6.6% oedd cyfradd trosi canser yr atgyfeiriadau lle’r oedd canser yn bresennol (ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru o 5.7%).
I gael rhagor o wybodaeth am y clinig diagnosis cyflym, ewch i.