Mae’n bleser gan y Bwrdd gyhoeddi bod Claire Beynon wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yn dilyn proses recriwtio gadarn. Bydd Claire yn cymryd yr awenau oddi wrth Fiona Kinghorn yn dilyn ei hymddeoliad, ar 29 Rhagfyr 2023.
Mae Claire yn arbenigwr ac arweinydd iechyd y cyhoedd sefydledig a chredadwy ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae cymhelliant Claire yn cyd-fynd yn dda â strategaeth y Bwrdd Iechyd gan fod ganddi ddiddordeb brwd mewn gordewdra ymhlith plant a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae ganddi ystod eang o brofiad perthnasol ar ôl gweithio yn y GIG a llywodraeth leol a bydd yn awr yn cael y cyfle i ehangu a datblygu ei dylanwad a’i chydberthnasau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg a thu hwnt drwy arwain agenda a gweithgareddau iechyd y cyhoedd a dulliau ataliol wrth i ni weithio ar y cyd i gyflawni ein gweledigaeth.
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr: “Rwyf wrth fy modd i weld un o’n rhai ni’n llwyddo yn y cyfweliad yn dilyn proses drylwyr a chystadleuol, da iawn a llongyfarchiadau i Claire. Rwy'n llawn cyffro i weld sut y bydd Claire yn arwain ein dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y boblogaeth ac iechyd y cyhoedd sydd wrth wraidd y strategaeth; "Llunio Ein Llesiant i'r Dyfodol". Mae Claire yn ymuno â ni ar yr adeg berffaith wrth i ni achub ar y cyfle i symud ffocws y sefydliad tuag at ddulliau ataliol sy’n seiliedig ar werth a fydd yn gwella canlyniadau iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chefnogi dyfodol cynaliadwy. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Claire yn ymuno â'r Tîm Gweithredol a gweithio ochr yn ochr â hi wrth i ni symud i'r flwyddyn nesaf. Llongyfarchiadau mawr i Claire, penodiad haeddiannol iawn.”
Dywedodd Charles Janczewski, Cadeirydd: “Rwy’n falch iawn o groesawu Claire i’r Bwrdd a llongyfarchiadau iddi ar ei phenodiad haeddiannol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd. Bydd profiad a gallu Claire yn ychwanegu cryfder sylweddol i'r Bwrdd wrth i ni weithio tuag at ddatrys yr heriau niferus sydd o'n blaenau. Mae Claire yn ymuno â’r Bwrdd ar adeg pan fo gofynion iechyd y cyhoedd o’r pwys mwyaf i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu ac i’n bwriad strategol. Nid yw penderfynyddion allweddol iechyd, gweithio gyda chymunedau, hyrwyddo dulliau ymyrryd ac atal, a gweithio gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid allweddol erioed wedi bod mor bwysig. Mae’n fraint i ni allu darparu gwasanaethau gofal iechyd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Byddwn yn ymgysylltu’n eang â’n cymunedau a’u hamrywiaeth gyfoethog, er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd cymaint â phosibl. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Claire ac rwyf wedi fy nghyffroi gan ei huchelgeisiau ar gyfer y rôl.”
Hoffai’r Bwrdd hefyd achub ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i Fiona Kinghorn am ei chyfraniad gwych yn arwain agenda iechyd y cyhoedd ar gyfer Caerdydd a’r Fro, yn enwedig am ei gwaith yn hyrwyddo gweithgaredd corfforol, bioamrywiaeth a phwysigrwydd yr amgylchedd ffisegol ar iechyd y boblogaeth. Roedd ei harweinyddiaeth trwy gydol y pandemig yn rhagorol gan gynnwys graddfa ryfeddol y rhaglenni brechu trwy gydol y pandemig Covid-19. Hoffem ddiolch iddi am ei gwasanaeth i iechyd y cyhoedd, y GIG a hefyd poblogaeth Caerdydd a’r Fro ac rydym yn dymuno’n dda iddi yn ei hymddeoliad.